Gwyddom fod rhai o bregethwyr mwyaf ein cenedl heddiw yn ymboeni mwy i baratoi eu hysbryd a'u gweddïau nag i baratoi'r bregeth; ac nid rhyfedd eu bod y fath rym ysbrydol. Ni welsom eto yr un gwir weddïwr, pa mor fychan bynnag ei wybodaeth a byr ei ddawn, nad oedd ei weinidogaeth yn effeithiol. Y mae llawer oedfa wedi ei handwyo gan weddïau hirfaith, gwasgarog, dieneiniad; a llawer cyfarfod gweddi wedi bod yn gwbl ddifudd oherwydd hirder ac ystrydebaeth gweddïau "ffwrdd â hi." Dylem ymogelu rhag geiriogrwydd ymhob cylch, ac yn anad dim pan nesaom at Dduw.
Tra cheidwadol ydym fel Ymneilltuwyr, a chyndyn i ddysgu dim oddi wrth geinciau eraill Eglwys Crist. Hoffem weled mabwysiadu'n gyffredinol Ffurf Wasanaeth, yn enwedig Ffurf Weddïau—nid i gymryd lle y Weddi Rydd bid sicr, ond i gyd-weini â hi. Y mae rhywbeth godidog ryfeddol, a'r rhywbeth hwnnw yn gyforiog o bosibilrwydd addolgar, mewn defnyddio ymadroddion fu'n gyfrwng addoli gan fyrdd o saint ar hyd y canrifoedd gweddiau mawr wedi eu llunio o eiriau'r Ysgrythur Lân a myfyrdodau etholedigion Duw. Yn yr un fan yn union y daeth Mair o hyd i Iesu Grist ag y cyfarfu Martha ag Efo'i blaen. Yr oedd Ef yno yn ei disgwyl (Ioan xi, 30). Y mae'n dra sicr