fod yr Arglwydd trugarog yn oedi, a heb symud cam o'r lleoedd nac o'r ymadroddion sanctaidd lle daeth dynion ac Yntau o hyd i'w gilydd. Gwyddom mai perygl ffurf yw meithrin ffurfioldeb a gwneuthur yr addoli yn brennaidd a di-sug; ondy mae llawn cymaint perygl, onid mwy, oddi wrth y Weddi Rydd, sydd mor fynych yn amleiriog, dibwynt, ystrydebol, hirwyntog a chyffredin ei thrwsiad. Defnyddier y ddwy, gan gofio bod iddynt y naill fel y llall—eu manteision a'u hanfanteision. I "wir addolwyr" mantais yw y ddwy.
Beth yw hyd y bregeth i fod? Dibynna hyn ar bwy sydd yn pregethu a'r fath bobl yw ei wrandawyr! Ond pregeth fer sy orau, a chymryd popeth at ei gilydd.
Neilltuer y Cysegr yn gyfangwbl i addoli: na chynhalier ac na "chyhoedder" ynddo un math o gyfarfod ond cyfarfod crefyddol. Disgynned taw buan ar areithiau blaenoriaid yn y seiat nos Sul: gadawer i'r gynulleidfa fynd adref yn sŵn y neges oddi fry. Os emyn hwyrol" neu "weddi hwyrol" i fod, nid oes ystyr mewn canu'r cyfryw ar ôl cyhoeddi'r Fendith: y Fendith sy i fod yn glo ar waith cysegredig y dydd.
Y mae o'r pwys mwyaf fod y rhai a "arwain" mewn addoli cyhoedd yn wŷr defosiynol ac yn ofni Duw. Nid oes dim tristach yn hanes crefydd Cymru heddiw na bod swyddogion heb ysbryd Crist ganddynt yn cymryd