Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y blaen mewn llawer eglwys, yn y seiat, y cyfarfod gweddi a'r ysgol Sul, a hyd yn oed yn ddigon hy a rhyfygus i rannu'r bara a'r gwin yn y Cymun Bendigaid-dynion anfaddeugar, dialgar, lawer ohonynt, sydd yn dywedyd pob drygair yn erbyn brodyr a chwiorydd yn yr un eglwys. "Dos ymaith" oedd gorchymyn Crist i'w tebyg gynt, "yn gyntaf cymoder di â'th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd." Nid oes gan y cyfryw ddynion anianol hawl i gyffwrdd â dim rhan o waith y cysegr sanctaidd; y mae eu presenoldeb yn dianrhydeddu Duw, yn atal y fendith ac yn difuddio'r gwasanaeth.