PENNOD XV
YR ADDOLWR YN DEML
Adfail hen gaer yw hwn-malurion mawredd;
A'r pelydr, o ddisgyn arno, hwythau'n chwilfriw;
Ac ef yn fudan mewn anwybod llonydd;
Fy enaid innau'n filmil mwy o ddrylliau-
Gweddillion hoedl yn symud drwy ei gilydd:
A'u cri yn fyrdd o deilchion ysgaredig,
Fel atsain griddfan ysbryd coll Iscariot.
Tybed gyfennir eilchwyl yr adfeilion?
Adfail castell ydyw'r naill; teml ar chwâl ydyw'r llall.
Y mae rhai o fagwyr y gaer ar ŵyr; a gorwedd main y muriau cwymp blith draphlith. Eithr ni ŵyr y gaer mo'i chyflwr; ac am hynny distaw a llonydd yw. Er disgyn o'r tywynion cymwynasgar i ganol y dinistr, arall ac nid y malurion eu hunain a wêl eu hadfyd ac a wyla o'i blegid.
Er eu maint anferth, nid ydyw drylliau'r gaer namyn pentwr o ysglod, swp o grinddail, siwrwd mawn, neu