ddyrnaid o lwch yn ymyl carneddau aruthr enaid dirywiedig. Methodd gan ddistryw hy a llwyr ddifrodi ei fawredd ef, na dileu mo'i urddas cynhwynol. Oeda mwy gogoniant ym murddyn y deml nag a wybu'r gaer yn nydd ei chadernid disigl. Talach yw'r meini a orwedd na thyrau ucha'r gaer ym more sefydlogrwydd ucheldrem. Er gwyro o'r deml i'r llwch, nid diflant oll ydyw'r arddunedd cyntefig.
Ac y mae yn ei chwymp hi rywbeth na chwympodd. Agwedd proffwydi cwsg ym min dadebru yw'r osgo sy ar y cerrig nadd syrthiedig. Gwybyddus i'r enaid a iselwyd ddarfod ei ddarostwng; a gŵyr druaned yw. Er ymollwng ohono, y mae'r malurion digyswllt yn ymwybod â'r undod cysefin; a dyheant am y cymwys gyd-gysylltu mewn adail ddiddatod. Oherwydd paham, ymwthia'r drylliau drwy'i gilydd,
Medr enaid ei fynegi ei hun. Ni chollodd mo'i lais; ond bod y llais wedi troi'n gri: a'r cri yntauoblegid ymddatod o'r enaid—wedi ymrwygo'n gareiau mân.
Nid enaid enaid onid adunir. Ond a adferir ef? A adeiledir y deml drachefn? Gwneir, o drugaredd, canys ffyddlon yw yr Hwn a addawodd, yr Hwn hefyd a'i gwna. Dy furiau—nid dy adfail—sydd ger fy mron bob amser, medd yr Arglwydd. Nid enaid fel y mae,