Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eithr fel yr oedd ac fel y bydd sydd yn Ei wyddfod Ef. Chwi a fyddwch berffaith. Ni osodir maen ar faen yn y deml newydd ond a fo deilwng o'r Sylfaen. Gras ydyw'r Pensaer, a Gwirionedd yr adeiladydd.

Yr Arglwydd a fynnai Ei ddryllio Ef. Dymchwelwyd y deml, rhwygwyd y cri, drylliwyd y Pelydryn. Yng ngolau atgof—a dry bellach yn ddoethineb profiad—gŵyr yr enaid am a fu. Yn llewyrch y Pelydryn, fe'i cenfydd ei hun wedi'i seilio mewn cariad a'i adeiladu ar y sancteiddiaf Ffydd yn cynyddu'n deml sanctaidd yn yr Arglwydd yn deml ni thynnir i lawr.

Una fy nghalon i ofni Dy Enw.

Boed fy nghalon iti'n deml,
Triged d'Ysbryd
Yn Ei deml dan fy mron.


"Teml y Duw byw ydych chwi, fel y dywedodd Duw, Mi a breswyliaf ynddynt ac a rodiaf ynddynt." —II Cor. vi. 16.