Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arglwydd, ein Gwneuthurwr," Salm 95, 6. Yn Salm 99, 5, cawn yr ymadrodd "ymgrymwch o flaen ei ystôl droed Ef,' sef cyfeiriad at dduil deiliaid o ddangos parch i frenin a eisteddai ar orsedd uchel ond â'i draed yn gorffwys ar ystôl. Addoli yw gwladeiddio mewn gwrogaeth.

Ceir hefyd abad—"gwasanaethu" ac ebed—"gwas": y rhai hyn eto yn cael eu defnyddio am berthynas dyn â'i frenin a'i ymddygiad ato, yn ogystal ag am addoli Iafe. Defnyddir y gair "gwas" weithiau ynglŷn ag addolwyr yn gyffredin, a phryd arall am un neu ragor yr ymddiriedir iddynt neges neu waith arbennig, er enghraifft, "fy ngweision, y proffwydi."

Gwelwn eto y syniad o addoli mewn geiriau tarddedig o'r gwreiddair yārē, sef "ofni"—hynny yw, yn yr ystyr o barchedigaeth. "Ofn yr Arglwydd" yw gair yr Hebrewr am grefydd; ac addolwyr yw y sawl "a'u hofnant Ef."

Y mae mewn Groeg clasurol a Groeg y Testament Newydd liaws o eiriau am addoli:

ara: "gweddi," "adduned," "melltith;" ond yn y Testament Newydd ei unig ystyr yw "melltith," Rhuf. 3, 14; euchesthai, prosenchesthai: "gweddio," "dymuno," "addunedu," "ymffrostio." Yn y Testament Newydd "gweddio," Math. 6, 9. Ceir yn y