Testament Newydd amryw eiriau eraill yn dynodi "gweddio," "ymbilio," "gofyn mewn gweddi," megis aiteisthai, deisthai, erotan; latreuein: "gwneud gwaith gwas cyflog," "bod yn ddarostyngedig i feistr," "bod yn gaethwas," "ufuddhau," "addoli'r duwiau â gweddïau ac offrymau." Y mae yn y gair awgrym o addoliad gwaith, fel yn y Lladin laborare est orare. Yn y Testament Newydd "gwasanaethu," "addoli." Gweler Act. 24, 14; neocoros: "ysgubwr teml," "ceidwad man neu beth cysegredig." Rhoddid ystyr anrhydeddus i'r swydd yng nghrefydd y Groegiaid. Yn Act. 19, 35, sonnir am "ddinas yr Effesiaid yn addoli y dduwies fawr Diana"—yn llythrennol "yn geidwad teml Artemis fawr;" proscunein: "gosod y llaw ar y genau i ddangos parch" (cunein—cusanu), ac ymhlith cenhedloedd y Dwyrain, "penlinio," "ymgrymu." Yn y Testament Newydd "ymgrymu," "penlinio," "addoli." "Addolodd Comelius Pedr," Act. 10, 25; "addolasant yn y mynydd hwn," Ioan 4, 20; seb: "parchu," ofni," arfer duwioldeb;" a gair cyfansawdd eu yn dda + seb—sebazesthai, sebesthai, sef "parchu," addoli;" eusebein: "dangos dyledus barch i dduw a dyn;" eusebeia: "parchedigaeth," "duwioldeb." Felly hefyd yn y Testament Newydd, e.e., 2 Tim. 3, 5, ac Act. 13, 43; thresceia: "addoliad,"
Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/19
Gwedd