worth-ship, a'r pwyslais eglur ar werth, teilyngdod ac arbenigrwydd y gwrthrych a addolir.
O ba le y daeth y gair Cymraeg "addoli"? Barna T. Gwynn Jones, Ifor Williams a J. Lloyd Jones nad o'r Lladin adoles y deilliodd, am fod y ffurf Lydaweg azeuli yn erbyn hyn yn bendant ac yn profì bod â hir ynddo ar un tro. Eu barn hwy, ill tri, ydyw mai o'r Lladin adoro y tarddodd—adoro wedi mynd dan ddylanwad ioli Geltig, sef berf sydd yn golygu "canmol," "parchu," "addoli;" a chadarnheir eu barn unfryd hwy gan Pedersen a Loth. Trydydd person unigol ioli yw iawl, a'r trydydd lluosog iolant. Ceir iawl yn eiriawl, a roes eiriol, a hefyd yng Nghymraeg Canol a roes ymioli ac ymeiriawl. Pe bai addoli, yn Geltig ei hanfod ac o wreiddyn ioli, eiddiawl ac eiddioli fyddai ei ffurf. Nid yw'n anodd gwybod sut y troes r yn adoro yn l yn y gair gan fod y cyfnewid yma yn beth digon cyffredin, er enghraifft—fesur, fesul; Chwefrol, Chwefror; ac yngenir colonel yn cyrnel. Ni cheir mo'r gair addoli yn Llyfr Taliesin, ond ceir ef mewn gwahanol ffurfiau laweroedd o weithiau yn y Llyfr Coch a'r Myfyrian Archaeology—yr enghreifftiau i gyd o waith Beirdd y Tywysogion, ac fe roddir i'r gair bob tro syniadau Eglwys Gatholig y cyfnod—plesio Duw. Hyd y gwyddom, nid yw y gair ymysg y