Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cariad di-hunan o'r hwn y tardd ein Hiachawdwriaeth bersonol—mewn gair, rhoddir bod yn ei enaid i egnïon cymdeithasol. Drwy gydymwneuthur â'r Gair sanctaidd sydd yn cynnwys y datguddiad, drwy'r Cymun Bendigaid sydd yn arwydd-lunio'r Crist a'i dug inni a dull Ei ddyfod, a thrwy gydweddïo, fe lif dylanwadau meddyliol, ysbrydol i'n bywyd a fydd yn ei ddyrchafu, ei ehangu a'i ddyfnhau, ac yn ein huno a'n gilydd, fel y gallom ddywedyd, "a'n cymdeithas ni yn wir sydd gyda'r Tad a chyda'i Fab Ef, Iesu Grist."

Y mae'r argraffiadau a wneir gan Dduw ar ddyn yn y gymdeithas, a'r mynegiad a rydd yntau iddynt, yn rhywbeth tra gwahanol i'r argraffiadau a wneir arno ar ei ben ei hun a'i fynegiadau yntau. Er yr addawa Crist fod gyda'i ddisgyblion bob amser, ar ddau amgylchiad yn unig y dywaid: "yno yr ydwyf" ac "yr wyf Fi gyda chwi," sef pan ufuddhao dynion i'r comisiwn mawr i bregethu'r Efengyl, a phan ymgynhullo dau neu dri yn Ei enw. Y mae'n rhaid bod rhywbeth arbennig yn Ei bresenoldeb yr adegau hyn neu nid oes ystyr i'w eiriau. Amlwg yw fod i'w bresenoldeb wedd neilltuol pan fo dyn ar lwybr ufudd-dod yn "gwneuthur disgyblion o'r holl genhedloedd," a phan fo yng nghymdeithas ei gyd-ddisgyblion yn cyd-addoli. Mewn un ystyr y mae Ef yn bresennol ymhob dyn, duwiol ac