Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III ADDOLI'R CRIST

FEL Gwrthrych addoliad y dygir yr Arglwydd Iesu Grist gyntaf ger ein bron gan yr Efengylwyr: "Duw gyda ni," "dechrau Efengyl Iesu Grist, Fab Duw," "Tydi yw Fy annwyl Fab yn yr hwn y'm bodlonwyd," "Hwn fydd mawr ac a elwir yn Fab y Goruchaf," "yn y dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair."

Beth bynnag oedd y cyrch yr anelent ato wrth ysgrifennu, a'r pwrpas gwahanol a oedd ganddynt pan groniclid peth o'i hanes, cytunent, ill pedwar, yn hyn—Ei fod yn Fab Duw, ac mai'r ffaith honno a hawliai y lle blaenaf yn Ei hanes. Dyma paham yr oedant cyhyd yng nghwmni'r ffaith, ac y manylant.

Gwelwn Simeon, angylion, doethion a bugeiliaid yn talu gwrogaeth iddo na weddai onid i Berson anfeidrol; ac fe'i haddolent oblegid yr hyn ydoedd ynddo Ei hun, canys nid oedd eto wedi athrawiaethu, ni ddiferasai gras dros Ei wefusau, ni chyflawnasai wyrthiau o arwyddion a rhyfeddodau, ni chymwyn-