asasai i drueiniaid, na'i gyfenwi Ei hunan yn awdur Iachawdwriaeth. Cawsant hwy—yr angylion, Simeon, y doethion a'r bugeiliaid—ryw gipolwg arno ar gychwyn Ei hynt ddaearol, drwy fflach o oleuni oddi uchod, na ddaeth i ran y disgyblion ond yn raddol, araf—rhyw flaenbrawf megis, o'r adnabyddiaeth a gafodd Pedr ohono'n ddiweddarach pan dystiai mai Ef oedd y Crist, Mab y Duw byw, ac y dywedai'r Iesu nad drwy gig a gwaed y gwybu ef hynny, eithr drwy ddatguddiad uniongyrchol oddi wrth Ei Dad.
Gwir mai "dyn bach" yn y preseb oedd Ef y pryd hwn, eithr gwybuwyd ganddynt mai Mab Duw ydoedd. Lle garw, oer oedd llety'r anifail, ond yr oedd tynerwch a gwres mynwes mam rhyngddo a'r gerwindeb a'r oerni—yn ddrych o'r fynwes arall y dywedai Crist yn ddiweddarach Ei fod Ef ynddi hyd yn oed yn nyddiau Ei gnawd: "Yr unig-anedig Fab yr hwn sydd ym mynwes y Tad."
Nid yn lle Duw yr addolid Crist gan y disgyblion. Gweled Duw ynddo a wnaent; ac addolent Ef am y gwyddent Ei fod yn Fab Duw ac oblegid hynny yn Waredwr.
I ddechrau, cyfareddwyd y disgyblion gan Ei onestrwydd a'i dynerwch yn wir meistrolwyd hwy ganddo. Ni welsent cyn hyn y fath symledd dihoced,