di-dderbyn-wyneb, na'r fath dirionwch twym-galon; ond o fyw yn Ei gymdeithas daethant i wybod bod yr onestrwydd yn fwy nag onestrwydd ei fod yn wirionedd; a bod y mwynder yn rhagor na mwynder—ei fod yn ras; onid aeth meistrolaeth onestrwydd yn awdurdod gwirionedd, a meistrolaeth tiriondeb yn awdurdod gras. Arweiniwyd hwy trwy ffyddlondeb i'r hyn a wyddent nes dyfod ohonynt i'w adnabod yn Fab Duw, a throes eu hymlyniad wrtho yn addoliad. Tyfodd yn eu golwg o fod yn ddyn da i fod yn "broffwyd," yn "Feseia," "yn Arglwydd Iesu," yn "Un a wnaeth Duw yn Arglwydd ac yn Grist," yn "Arglwydd a Duw;" a phan welai Ioan Ef yn y Nef, fe'i gwelai yn cael Ei addoli gan bawb fel Oen Duw: "Teilwng yw yr Oen sydd wedi Ei ladd, i dderbyn gallu, a chyfoeth, a doethineb, a chadernid, ac anrhydedd, a gogoniant, a bendith. A phob peth creedig sydd yn y Nef, ac ar y ddaear, a than y ddaear, ac ar y môr, a glywais i yn dywedyd, I'r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc ac i'r Oen y byddo y fendith, a'r anrhydedd, a'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. A dywedodd y pedwar creadur byw, Amen. A syrthiodd yr henuriaid i lawr ac a addolasant."
Disgwyliai a hawliai Crist addoliad Ei ddisgyblion, ac fe'i swcrai, fel y dengys Ei ymddiddanion â hwy ac