Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y molai Crist Ei Dad—Ei garu a wnâi. Rhosyn gwyn ydyw cariad ac iddo beraroglau. Enw'r persawr yw mawl. A chariad at ddynion oedd Ei weddïau drostynt—dros Pedr, dros Ei elynion, dros Ei lofruddion, ac yn arbennig yn y Weddi fawr archoffeiriadol.

Heblaw hyn, yr oedd Ei weddïau yn fynegiad o'i addoli aberthol, ac yn ffurf arno, oblegid dros eraill y gweddïai. Gydag eithriad o ryw dro neu ddau, ni cheisiai odid ddim iddo'i hun: gogoniant Ei Dad a sancteiddiad Ei bobl a âi a'i fryd yn llwyr. Rhoddai Ei Ewyllys i fyny i Ewyllys Ei Dad ar hyd y daith, nes bod yn briodol dywedyd ddarfod iddo farw laweroedd o weithiau cyn cyrraedd y Groes, a chyfiawnhau gwirionedd Ei dystiolaeth pan ddywedai—cyn marw ohono ar Galfaria—"Mi a gwblheais y gwaith a roddaist i Mi i'w wneuthur." Aberth, hunan—aberth oedd pob un o'i weddïau.

Hyfforddiesid Ef yn y synagog yn hanes Abraham yn aberthu Isac, hanes oen y Pasg, hanes Moses, Dafydd, Solomon, Samuel, Elias, Eseia, Jeremeia, Eseciel ac eraill a'u hanes yn troi o gwmpas addoli: dyna a'i gwnâi yr hyn oeddynt eu perthynas â'r tabernacl neu y deml. A derbyniodd Crist eu hesiampl. Yn y synagog y'i dysgid, eithr gwybu yn gynnar fod yn rhaid wrth deml i gyflwyno'n gyson i'r genedl a chadw ger