bregethu cyfiawnder, condemnio arwynebolrwydd a diffyg meddwl, a chollfarnu rhagrith, eto fe ganfu Grist yn Ei berthynas â'r deml ac fel y sylweddoliad a roddai ystyr a phwrpas i'w holl gysgodau. "Wele Oen Duw": Crist yr Aberth a'r Aberthwr a welai ynddo, a phechod drwy Ei lawn yn cael ei ddileu—"yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechod y byd."
"Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear a marw hwnnw a erys yn unig; eithr os bydd efe marw efe a ddwg ffrwyth lawer." Cosb hunan ydyw bod yn dragwyddol unig; gwobr hunan-aberth yw ffrwythlonder anfeidrol.
Ym munudau tristaf bywyd pan oddiweddid Ef gan siom y llefarai'r Arglwydd Iesu Ei eiriau cyfoethocaf. Ceir lliaws o enghreifftiau o hyn, a'r fwyaf nodedig ohonynt oll ydyw'r ymadrodd: "A minnau os dyrchefir Fi oddi ar y ddaear a dynnaf bawb ataf Fy hun." Teimlai nad oedd ffrwyth dyladwy i'w bregethau a'i wyrthiau, a gofidiai o'r herwydd. Ac meddai (yn ymarferol): "Methiant fûm hyd yma, ond arhoswch chwi ennyd hyd oni chaffwyf farw a chwi a welwch y gwahaniaeth. Daw llwydd yn lle aflwydd, oblegid bydd Fy addoliad aberthol ar Galfaria yn tynnu pawb ataf Fy hun." Ei aberth ar y groes oedd perffeithrwydd Ei addoli.