Addoli trwy aberth ydyw un o'r prif wirioneddau a ddysgir gan yr ail Eseia. Bywyd yr aberthwr yn y cwbl ohono oedd yr addoliad, a'r addolwr ei hun oedd yr aberth. Fe genfydd Iesu Grist Ef Ei hun mewn dau o leiaf o ymadroddion y proffwyd, ac ar y rheini y seilia'r geiriau: "gosod Ei einioes yn bridwerth dros lawer, 'a chyfrifwyd Ef gyda'r troseddwyr."
"Mi a ddeuthum," ebr Iesu Grist, "fel y dygwn dystiolaeth i'r gwirionedd"—nid i ddysgu gwirionedd eithr i ddatguddio cymeriad Ei Dad. Gresyn ein bod mor chwannog i grebachu ystyr y gair gwirionedd, a'i wneuthur i feddwl dim amgen na chywirdeb gwybod. Yn ôl Hoskyns a Davey, fe olyga gwirionedd "uniondeb pwrpas, uniondeb lleferydd ac uniondeb gweithred—nid gwirionedd seiliedig ar na syniad na defod ond ar ddatguddiad hanesyddol." "Ac ni ddylid," medd Herrmann, "alw dim mewn crefydd yn ddatguddiad ond yr hyn a'n dwg wyneb yn wyneb â Duw." Byw bywyd Duw a wnaeth yr Iesu: Ef Ei hun ydyw'r datguddiad; ac nid oes dim amlycach yn Ei hanes na'i fod yn addoli Duw ym mhopeth a wnâi ac ym mhopeth y peidiai â'i wneuthur. Addoliad aberthol oedd Ei holl fywyd—Ei actau a'i ddistawrwydd, Ei gyflawniadau a'i oddefolrwydd. Ei bersonoliaeth oedd yr eiriolaeth. Yr oedd yn fwy na gweddïwr—yn weddi.