Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wrth ddatguddio Ei Dad, sef byw y gwirionedd, try Ei eiriau yn weithredoedd, Ei fudandod yn dystiolaeth, ac Ef Ei hun yn eiriolaeth. Ac yn Ei aberth y mae ystyr a grym yr eiriol.

Cyfyngwn ormod lawer ar ystyr y Bregeth ar y Mynydd drwy synio amdani fel dim amgen na dysgeidiaeth foesol. Y mae ynddi, bid siwr, foeseg ddihafal sydd â'i thrumau uchel yn corachu holl ddysg y byd ar foesoldeb. Cyfuwch yw ei mynyddoedd talgrib fel nad oes llawer hyd heddiw hyd yn oed yn Eglwys Crist a welodd eu godre erioed, chwaethach esgyn dim ar eu llethrau. Dyma ichwi fynyddoedd i'w dringo: "Cerwch eich gelynion, gwnewch dda i'r rhai a'ch casânt, bendithiwch y rhai a'ch melltithiant, a gweddïwch dros y rhai a'ch drygant." Ond y mae mwy o addoliad nag o foeseg yn y Bregeth. Ofer yw ceisio ein dwyn ein hunain i iawn gyswllt â'n cydddynion heb yn gyntaf gael ein dwyn i berthynas briodol â Duw—hynny ydyw, heb inni fod yn addolwyr. Achubiaeth drwy ras yw y peth blaenaf a'r pennaf oll; a heb inni, ar lwybr addoli, ddyfod o hyd i Iachawdwriaeth, nid yw'r ymdrech i'n moesoli ein hunain a moesoli eraill, heb gael ein hachub, yn ddim amgen na spring cleaning â'r tŷ ar dân. Yr anodd, yr anhawsaf, aberth, hunan-aberth, hunan-aberth