Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

croes—dyna anfeidrol fwy na moeseg; a dyna ogoniant y Bregeth ar y mynydd: dyn yn addoli drwy ei aberthu ei hun. Ymgysegriad addolgar, gwasanaeth, caledwaith a dioddefaint a marw ydyw llwybr, unig lwybr pob gwybod gwir, pob meddiant sicr, pob goruchafiaeth deg, pob twf diwywiant, a phob gwynfyd didrai. Ac y mae'n eglur fod Iesu Grist â'i lygaid ar Ei addoliad aberthol wrth lefaru'r Gwynfydau a'r Bregeth ar y mynydd oll. Nid moeseg yn unig nac yn bennaf sydd yma, namyn cyffes ffydd Addolwr.

Addolai Crist wrth fyw a thrwy fyw; addolai wrth farw a thrwy farw. Ei fywyd oedd yr Allor, yr Aberth, a'r Aberthwr. A grym Ei anadl olaf fe ddywedai: "I'th ddwylaw Di, O Dad, y gorchmynnaf fy ysbryd," gan ddefnyddio ymadrodd a ddisgynasai dros wefusau llu o saint Ei genedl Ei hun ar hyd yr oesoedd, ond ei fod yn newid un gair (annibyniaeth Duw) drwy roddi "Tad" yn lle "Arglwydd" (Iafe) fel y ceir yn y Salm. Aeth Mab Duw ein Rhag—flaenor i mewn i'r gwir gysegr gan gael i ni dragwyddol ryddhad, yn y cymeriad o Archoffeiriad. Yr archoffeiriad ydoedd prif addolydd y genedl; ac fel Addolydd yr esgynnodd yr Arglwydd Iesu Grist i'r ddeheulaw. "Yng nghanol yr eglwys y'th folaf Di."