PENNOD V
Y DDWY FFRWD: RHODDI A DERBYN
Y MAE addoli yn gyfystyr â llif cyfamserol dwy ffrwd a red i ddau gyfeiriad gwahanol, neu, yn fwy cywir efallai, ffrwd a lif i gyfeiriad neilltuol ond a gynnwys ynddi'i hun is-lif yn rhedeg i gyfeiriad arall. I Dduw yr â un; o Dduw y treigla'r llall.
Galwn un y dylifiad aberthol yn rhedeg oddi wrth ddyn ac yn cynnwys popeth y dichon dyn ei roddi i Dduw mewn meddwl, gair a gweithred. Galwn y llall y llif sacramentaidd a red drwy Grist i ddyn, ac a gynnwys Ei ras amlweddog, anchwiliadwy.
I
A dderbyn Duw rywbeth gan ddyn pan addolo? Gwna. "Fy enaid bendithia yr Arglwydd." Yr ydym yn rhoddi i'r Arglwydd ogoniant a nerth. O ufuddhau i'w ewyllys pan allem beidio yr ydym yn rhoddi iddo Ei hawliau. Gallwn hyrwyddo neu lesteirio Ei fwriadau. Wrth ymddiried inni ewyllys rydd fe ddewisodd yn ei berthynas â ni—beidio â