Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bod yn holl-alluog; a bellach, pe gorfyddai inni wneuthur a fynnai Ef, yn groes i'n hewyllys, fe ddinistriai ein personoliaeth: nid dynion a fuasem mwyach ond peiriannau. Bu Duw unwaith mewn penbleth. "Pa beth a wnaf i'm gwinllan?" Gwelai fod dynion yn ei dinistrio—yn difrodi Ei gynlluniau; a'r benbleth oedd, pa fodd i achub y winllan heb ddistrywio'r gwinllanwyr, oblegid gwyddai y buasai eu gorfodi i wneuthur a ddylent yn gyfystyr â chymryd oddi arnynt eu hewyllys, ac felly yn eu trawsnewid i fod yn rhywbeth amgen na dynion.

Pan o wirfodd yr ufuddhaom a dyfod ato yr ydym yn plygu i'w ewyllys, ac felly yn rhoddi iddo. Fe ewyllysiodd Ef inni fod gydag Ef, yn dirnad Ei feddwl, yn cydymdeimlo â'i bwrpas, yn cyfranogi o'i ysbryd. Plannodd ynom y reddf addoli fel y delem ato, y dymunem Ei gymdeithas ac y llawenychem o fod yn agos ato. Lladrata gogoniant Duw, a chyfodi gwrthgloddiau ar lwybr Ei ewyllys ydyw peidio ag addoli. Pan addolom y mae popeth a'r a dderbyniwyd gennym ganddo yn dychwelyd ato—hanfod y trugareddau tymhorol, hyd yn oed, yn cael ei droi i fod yn drugareddau ysbrydol, ac yna, yn y diolch a'r mawl, yn esgyn drwy'n calon at yr Hwn a'i rhoes.