Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i Dduw Ei gyfle i wneuthur saint ohonom. Yn wir, dwg y gildio ei wobrwy uniongyrchol. Dyma'r pryd y sylweddolwn pwy a pha fath ydym, y disgyn llewyrch y tragwyddol ar broblemau bywyd, ac y'n cynysgaeddir â nerth i ymateb i bob gofyn. Ni ellir dim ymdaflu ar Dduw heb addoli. Abandon y Ffrancwr, gelassenheit yr Almaenwr, let go y Sais, ymollwng y Cymro—dyna ystyr y gildio. Eithr nid ein colli ein hunain yr ydym drwy hyn, ond ein caffael ein hunain: 'ac y'm ceir ynddo Ef"—wrth iddo Ef ein derbyn, fe fyddwn ninnau yn ein derbyn ein hunain. Myned allan, rhagom ac i fyny y byddwn; o'r hyn ydym at y gwell a'r gorau—at Dduw.

9. "Ymarfer dy hun i dduwioldeb"—exercise thyself. Gair ag iddo lawer o feddwl yw'r gair practice. Drwy'r practice y dysg côr yr anthem ac ymberffeithio yn y datganiad, a thrwy'r practice y caiff meddyg feistrolaeth ar ei alwedigaeth. Ymarferyd modd y gwypont a wna'r naill fel y llall; ond y mae Chrysler, crythor enwoca'r byd, yn canu'i grwth am bedair awr yn feunyddiol, nid er mwyn dysgu ond am ei fod eisoes yn gwybod—ofn colli'r cyffyrddiad â llinynnau'r offeryn sydd ganddo, a thrwy hynny dorri'r cyswllt ag ysbryd y gerdd. Y mae'r ddau yn wir am yr addolwr: drwy addoli y dysg y grefft ddwyfol ac y ceidw in touch â Duw.