10. "Y mae mewn dyn," medd Pirandello, "du hwnt (un oltre), rywbeth dros ben (un di piu), a rhywbeth di-raid (superfluo)—neu, yn gyfryw nad oes mo'i eisiau arno ar gyfer y byd hwn, ond sydd, er hynny, yn ei aflonyddu a'i gythryblu, ac a wrthyd iddo fod yn fodlon ar y pethau sydd. Rhoddes natur i anifeiliaid y peth a'u digona; ond mae mewn dyn rywbeth dianghenraid ar gyfer y bywyd presennol, na ad iddo fod yn fodlon—h.y., y mae ynddo fwy nag sy ofynnol i gyflenwi ei reidiau. A'r gwir yw, mai y peth hwn sy 'dros ben'—cyn belled ag y mae a fynno'r byd hwn ag ef a'i gwna yn ddyn ac nid yn anifail. Ni orffwys ac ni ddigonir y peth hwn sy 'dros ben' gan ddim sy ar y ddaear." Dyma yr hyn sydd â'i lygaid yn tremio tuhwnt i'r gweledig a'r amserol ac yn dyheu am ei fyd ei hun—byd ysbryd a thragwyddoldeb. Mewn addoli y mae yr elfen hon yn cael meithriniad a rhyddid diwahardd.
11. Heb addoli, cyll serchiadau naturiol eu purdeb, eu symlrwydd a'u nerth: perthynas â Duw yn unig a'n gweryd; dirywia onestrwydd fel nad yw onid caledrwydd hunan-gyfiawn; ac ni wna cymwynasu i drueiniaid ddim rhagor na phorthi ein balchder. Cyn caru Duw a'i addoli, ymgynnal arno'i hun y mae cariad dyn, a'i addoli ei hunan; ac yn y man daw tranc i'w ddibennu