ef, a'i gariad a'i "dduw" bach. Ond pan addolom Dduw fe gynhydda, fe sancteiddir, fe gryfheir, fe dragwyddolir ein cariad.
12. Ymadrodd sydd yn pruddhau dyn yn ddirfawr ac yn peri arswyd aruthr yw y geiriau, "y mae yr holl fyd yn gorwedd mewn drygioni." Cynhwysa ragor na bod y byd yn ddrwg. Y mae yn fodlon ar ei gyflwr, heb wybod druaned yw, yn clertian ar fynydd llosg mewn trymgwsg, heb ymdrech i symud o'r fan. Buasai'r weledigaeth yna—a nyni'n gwybod ein bod yn rhan o'r byd a ddisgrifir—wedi'n llwyr ddigalonni onid ein gwallgofi onibai i Dduw yn ei ras, pan addolem, agoryd ein llygaid a dangos inni nad yw hwnyna onid rhan o'r gwir. O drugaredd, y mae'r "byd" yn rhywle arall hefyd. "Felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd Ef Ei unig—anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo Ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol." Cymryd gwrthrych i'r fynwes ydyw caru. Y mae'r byd felly ym mynwes Duw, a hyd y gwyddom nid oes onid dau wrthrych yn y fynwes honno—y Mab a'r byd. Dyna sail ein gobaith am Iachawdwriaeth byd coll—gwybod ei fod yn yr un fynwes ag Iesu Grist, a bod y Gwaredwr yn caru'r byd â'r un cariad ag y câr Ei Dad yntau.