13. Tybed a ŵyr y darllenydd, fel y gŵyr rhai ohonom, beth yw colli ffydd mewn dynion a hyder ynddo ei hun? Ni ddisgwyliem ac ni chwenychem barhad ein hoedl: yr oedd ein gafael ym mhawb a phopeth a hyd yn oed ynom ein hunain, wedi llacio. Diffoddasai pob gobaith y dwthwn hwnnw, onibai nesâu ohonom at Dduw, ymorffwys arno, a'i glywed yn dywedyd, "Yr wyf Fi gyda thi."
14. Mewn addoliad fe eill Duw Ei roddi Ei hunan i gyd i bob un, heb i hynny dlodi undyn. Y plentyn piau'i fam, ond "fy mam" yw cyfarchiad ei frodyr a'i chwiorydd hefyd fel yntau. Duw yw y dawn nis rhennir: y mae'n rhy fawr i'w rannu, ac fe'i ceffir yn gyfangwbl neu ddim. "Dedwydd y galon," ebr Erskine, "a ddysgodd ddywedyd 'Fy Nuw.' Cynhwysa'r ymadrodd byr yna grefydd i gyd, a phob gwynfyd sy ddichon i ddyn. Y mae crefydd y cwbl ohoni—mewn newid 'Ef' am "Ti.' Haniaeth (abstraction) yw crefydd cyd ag y bo yn 'Ef.' Gyda'r Ti yn unig yr adwaenom Dduw."
Pe na roesai Duw i ddyn ond yn ôl ei eisiau fe gâi lawer; o roddi iddo yn ôl mesur ei angen câi anhraethol fwy; eithr nid felly y rhydd Ef, ond "yn ôl Ei olud mewn gogoniant yng Nghrist Iesu"—rhoddi gyda mawrfrydigrwydd a haelfrydedd teilwng ohono'i hun