Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'i gyfoeth. Ac mae Iesu Grist yn rhoddi hawl inni berchenogi Duw: "Fy Nuw i a'ch Duw chwithau; fy Nhad i a'ch Tad chwithau." "Yr Arglwydd yw fy Mugail," ebe'r Salmydd. Fel gofalydd a gwarchodydd y cawn yr olwg gyntaf ar yr Arglwydd yn yr Ysgrythurau —yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd, yn bugeilio'r dyfnderoedd; ac nid yw'r creadigaethau oll, distadl ac arall, yn ddim llai na Duw yn corlannu Ei feddyliau Ei hun. Daw'r sawl a allo ddywedyd "Fy mugail," a hyn fel profiad o'i ymwneuthur â Duw, i feddiannu Duw a'r cyfan sy eiddo, canys nid oes un wedd ar fywyd yr Anfeidrol na all dyn ymestyn ati a'i pherchenogi. Y mae dyn, eisoes, o ran ei ysbryd, yn ddiddechreuad fel Duw Ei hun.

15. Fe ymdraidd drwy fywyd dyn elfen athrawaidd y daw ef, yng nghymundeb â Duw, i wybod amdani. "A'r athrawon a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen." Paham y'n dysgir mai oddi wrth "Dad y goleuadau" (y bydoedd) y disgyn holl drugareddau yr Arglwydd i ddyn? Dyfod a wnânt o Ffynnon y Goleuni, a dwg pob rhodd, ynddi hi ei hun, nodau eglur ei thras a'i haniad—hynny yw, y mae pob rhoddiad daionus a phob rhodd berffaith yn llewyrchu. Ond ni welir y pelydr dwyfol sydd yn amwisg i'w holl roddion—fach a mawr—oddieithr gan y sawl a drigo