Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae addoli yn deffroi dyn drwyddo. Dwg pawb ohonom yn ddirgelaidd ddôs go dda o opium yn ei gyfansoddiad, ac adnewyddir hi'n llechwraidd gennym yn awr ac yn y man. Pa sawl awr o fwynhad trwyadl ddigymysg, ymwybodol, a gawsom drwy gydol oes, a pha nifer o actau llwyr weithredol a gyflawnwyd gennym? Nid yw dyn byth yn hollol effro, ymwybodol, rhydd ond pan addolo. Mynych y bydd amser a ninnau yn ymbalfalu fel deillion ar bared tragwyddoldeb; ond y mae dôr yn agoryd pan addolom, a gwneir Dyffryn Achor (glyn trallod) hyd yn oed, yn ddrws gobaithyn fynedfa i fyd ehangach, purach, gwell. Pwysa amgylchiadau arnom, weithiau, a'n gwasgu'n dyn, nes bod bywyd yn gwm caead.

"Anffyddlon imi trodd y byd,
Anffyddlon dynolryw,
Ond 'r wyf fi'n rhedeg drwyddynt oll
I fynwes bur fy Nuw."

Y mae dyn ysbrydol fel gair Duw—"nis rhwymir." Cylymer ef â rheffynnau adfyd fe lysg y rheffynnau oll: "Un wreichionen fach o'th gariad

Wna fy rhwymau oll yn rhydd."

Teflwch ef i'r môr, fe fydd yntau yn y man yn byrlymu'n ffynnon loyw, groyw ar lechwedd y mynydd.