Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cleddwch ef, ac fe dyf o ddaear mynwent yn bren praff, digon cadarn i fedru herio cynddaredd tymestloedd, rhoi nythod i adar yr awyr, a chysgod i bererin y ddrycin.

Cornant yn rhwym gan y rhew a'i chân ynghlo ydyw enaid diaddoli. Duw â thes Ei gariad yn unig a fedr ein dadlaith. O Arglwydd meiriol ni.

Er yn plygu, esgyn mewn gwirionedd y mae'r addolydd.

Wedi dringo'r Alpau uchel, ni chofiem ddim am ogledd a de, dwyrain a gorllewin: edrych i'r ehangder ac i dragwyddoldeb a wnaem; ac nid yw'r neb a gollo'i ffordd yno yn gofyn, "Faint yw hi o'r gloch": chwilio am ei lwybr y mae. Ar yr uchelderau fe baid amser a lle. A dyna un ffordd i orchymyn i'r haul aros—dianc o afaelion amser i ryddid y tragwyddol.

Ar fynyddoedd natur, heb sôn dim am Fynydd Seion, fe ymdawdd y golygfeydd lawer i'w gilydd a ffurfio un olygfa—y gwrthrychau oll, yn eu prydferthwch, eu harddunedd, eu hamrywiaeth a'u hunoliaeth yn awgrymu'r tragwyddol ac yn rhan ohono. Dyrchafael, gweledigaeth a rhyddid yw addoli.

20. Pan ddêl meddyliau Duw atom ni a geisiwn eu dilladu mewn iaith, oblegid dyna'r unig ffordd inni fedru eu cadw. Ond pa mor ddistaw bynnag y bôm