Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'u gwisg nis dihatrwyd o'u tegwch, canys gwelwn yn y noethni—ac oblegid y noethni—frodwaith cywraint cainc a brigyn, a guddid gan y dail. Datguddio prydferthion newydd a wna'r dymestl i'r sawl sy yng nghymdeithas Crewr y gwynt, a Saer y ddrycin. Gŵyr fod ganddo feddiannau rhy fawr i'w colli byth, a rhy drymion i neb fedru eu dwyn oddi arno. O dan fondo'r deml y câi aderyn y to dŷ a'r wennol nyth iddi; yng nghysgod yr Allor y caiff enaid gweddw hefyd loches glyd.

32. Ped addolem fwy ni'n bydderid gan atgof dadwrdd ddoe ac ni ferwinid ein clustiau gan gythrwfl heddiw; fe ymlifai murmuron melysber y tragwyddol i'n bywyd. "Trwy obaith y'n hiacheir;" a'r dyfodol yw dewis randir ei etifeddiaeth ef. Dyfod ydyw hanes Duw erioed. Fe ddaeth er mwyn dyfod; fe ddaw er mwyn dyfod drachefn. "Er dyddiau tragwyddoldeb y mae Ei fynediad Ef allan;" "Wele Fi yn dyfod;" "Myfi a ddeuaf atoch;" "Myfi a ymwelaf â chwi drachefn;" a dywaid yr Arglwydd Iesu Grist amdano'i hunan wedi Ei ogoneddu, "ac Efe a ddaw ac a wasanaetha arnynt hwy": y mae yr anian "dyfod" yn peri dwyfol aflonyddwch hyd yn oed ar yr Orseddfainc, ac fe edy Ei deyrnwialen ar ôl rywbryd eto er mwyn "dyfod" a "gwasanaethu."