33. Peth tra chyffredin yn ein hanes ydyw i gyfarfyddiad awyddfryd a mwynhad, hiraeth a sylweddoliad droi yn siom: nid a ddisgwyliem a ddigwydd. Eithr nid byth felly ynglŷn â'r awydd am Dduw a'r hiraeth am sancteiddrwydd: y mae'r awydd a'r hiraeth yma yn broffwydol yn wir, yn rhagor na hynny yn rhan o'r mwynhau a'r sylweddoli. Ni'n siomir byth ond gyda'r pethau lleiaf. Diau ddarfod i Dduw drefnu i beidio â chysylltu sicrwydd di-siom wrth y pethau bychain am y gwyddai na allai eu hysgwyddau egwan hwy ddim cynnal baich mor drwm—yr ysigid hwy gan y pwn a'u llethu i'r llawr. Dieithr byth i gri'r dwfn fydd siomedigaeth; y mae gwarant cyflawniad yn nyheadau addolwr.
"A hwy a aethant i fyned allan i Ganan, ac i Ganan y daethant." Aethant . . . daethant. A Duw Ei hunan yw ein Canan ni.
34. Parhawn yn ddigon o blant i ymddiddori mewn nythod adar: yn wir, i chwilio amdanynt fel y gwnaem gynt; ac ni fynnem er dim golli ysfa "hel nythod." Daethom o hyd i un ohonynt y dydd o'r blaen. Mewn twmpath bychan ar y llawr yr oedd y nyth—nyth ehedydd. Efallai mai oherwydd nythu ohono mewn lle mor isel y gall ehedydd esgyn cyfuwch ar ei adain, a chyrraedd nodau mor uchel yn ei gân. Pedwar