Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'u hwynebau ni chywilyddiwyd." Y mae Duw i gyd yn wyneb Iesu Grist, a dyn i gyd yn rhedeg i'w lygaid pan edrycho arno Ef. Cymundeb y ddau edrychiad ydyw'r Nef. "Yn siriol wynepryd y Brenin y mae bywyd."

Gwaredwr "uwch na'r nefoedd oedd weddus i ni," Un na allai nefoedd y Nefoedd mo'i gynnwys y Duw a ddisgynnodd i'n byd a'n bywyd gan rwygo'r nefoedd wrth ddyfod i lawr.