wr—"chwi a fyddwch berffaith"—o'n hamherffeithrwydd presennol; a phair sylweddoli'r diffyg ddygn boen inni. Fe gyd-drig gobaith ac ofn, llawenydd a thristwch yn ein calon.
"Y mae'n rhaid esgyn ar hyd ffordd driphlyg," ebe'r Hisbaenwr enwog Bonaventura—"ffordd y puro, ac yn honno y glanheir o bechod; ffordd y goleuo, ac yn honno y dilynir Crist; ffordd yr uno, ac yn honno y derbynnir y Priodfab." Ond nid rhywbeth i'w gyrchu a'i sylweddoli ar ddiwedd yr yrfa ydyw undeb â Christ, namyn rhywbeth sy'n ffaith heddiw yn hanes a phrofiad y sawl a gredo. "Glanhau, dilyn Crist, derbyn y Priodfab"—dyna drefn y Pabydd. Eithr nid dyna fel y dysg Protestaniaeth. Nid y sancteiddio sy'n blaenori yn Nhrefn y Cadw; ac nid un act derfynol mo sancteiddhâd, ond, yn hytrach, cwrsweithrediad cyson, parhaus.
"Fe'm golchir yn fy nghystudd trwm,
Fe'm purir yn y tân;
Ac mi ddof allan pan ddêl dydd
Wedi fy nghannu'n lân."
Nid tair ffordd sydd yma i'w hesgyn gennym, ond un. Neu, yn fwy cywir, y mae'r tair yr un a'r unrhyw —y glanhau, y dilyn a'r derbyn. Puro drwy ddilyn