ydyw, a dilyn drwy gael ein puro; ac ni ellir mo'r naill na'r llall heb dderbyn Crist. Y tri hyn, un ydynt. Yng Nghrist y mae ein popeth; ac o'i dderbyn Ef drwy gredu ynddo, nyni a dderbyniwn yr Iachawdwriaeth gyflawn: "yr ydych chwi ohono Ef yng Nghrist Iesu, yr Hwn a wnaethpwyd inni gan Dduw yn ddoethineb, yn gyfiawnder, yn sancteiddrwydd ac yn brynedigaeth." A phan adawom y byd hwn ac y'n perffeithir sylweddoli yn llwyrach y byddwn ein hetifeddiaeth bresennol—cawn brofiadau newydd o ogoniant digwmwl sancteiddrwydd, o ddwyfol ramant y dilyn, o hyfrydwch anorffen y derbyn.
Camgymeriad dybryd yw tybied mai ar lwybr ac ar ddull mathematical progress y digwydd cynnydd ysbrydol. Tebycach yw ei gynnydd ef i ymweithiad deddf trai a llanw'r môr. Sefwch ar y draethell ac edrychwch ar ddynesiad y don, a chewch ynddi ddrych o gynnydd ysbrydol. Y mae'n cefnu a dynesu bob yn ail, cilio a dyfod atom, pellhau ac agosau, llithro'n ôl a symud ymlaen. Try ei chefn ar y morlan, un munud; y munud nesaf, cofleidia hi. Ac y mae llithriad y don mor anhepgor iddi â'i dyrchafiad os am gyrraedd ei chyrch.
"Try'r greadigaeth
Ôl a gwrthol, wrth Dy air."