ADDYSG YNG NGHYMRU 1847-1947
BLWYDDYN BWYSIG I GYMRU, AR LAWER CYFRIF, OEDD 1843. YN Y flwyddyn honno y cyflwynodd Syr James Graham ei Fesur Ffatrioedd; y cyhoeddwyd, am y tro cyntaf, Yr Amserau a'r Cronicl, ac yr ail-dorrodd terfysgoedd Rebecca. Y terfysgoedd hyn, ynghyd ag atgofion am helyntion y Siartwyr yn 1839, a awgrymodd i William Williams, aelod seneddol dros Coventry a brodor o Lanpumpsaint, y dylid gwneud rhywbeth er sicrhau gwell addysg i'r Cymry. Credai ef, fel llawer o rai eraill ar y pryd, fod afreoleidd-dra i'w briodoli i anwybodaeth, a bod ysgolion yn rhatach i'w cynnal na heddlu neu fyddin.
"Dylid cofio" meddai yn Nhŷ'r Cyffredin yn 1846, "fod pobl heb addysg a heb ddisgyblaeth, fel y rhai sy'n byw ymysg y Mwynfeydd yn Neheudir Cymru, yn beryglus i'r eithaf i'r gymdogaeth y maent yn byw ynddi, a bod y gost o gadw nifer o ysgolfeistri effeithiol yn llai na'r draul o gynnal corff o heddgeidwaid neu filwyr."
Ar bwys y syniadau hyn aeth ymlaen i gynnig:
"Ein bod yn ostyngedig yn cyflwyno Deiseb i'w Mawrhydi ar iddi'n rhadlon drefnu Ymchwiliad i gyflwr addysg yng Nghymru, yn arbennig i gyfleusterau'r gweithwyr i ddysgu Saesneg."
Cydsyniodd ei Mawrhydi, sef y Frenhines ieuanc Victoria (nad oedd ond 27 oed ar y pryd), a phenodwyd tri o Ddirprwywyr ar gyfer y gwaith. Tri o wyr ieuainc galluog oeddynt—J. C. Symons, R. R. W. Lingen a H. Vaughan Johnston—a rhoddwyd iddynt gyfarwyddiadau clir a synhwyrol gan James Kay Shuttleworth (Ysgrifennydd y Cyfrin Gyngor ar Addysg). Eglurodd iddynt mai amcan y Ddirprwyaeth ydoedd gwybod beth oedd "nifer yr ysgolion o bob math ar gyfer addysgu plant y gweithwyr, ac ar gyfer pobl mewn oed, cyfanswm y presenoldeb, oed y disgyblion a natur y gwersi," fel y gallai'r Llywodraeth ystyried pa fesurau y dylid eu cymryd er mwyn gwella darpariaethau addysg yng Nghymru. Disgwylid iddynt egluro'u gwaith i ymddiriedolwyr a rheolwyr yr ysgolion, a phan geid cyfleusterau i ffurfio barn deg ar gymwysterau a chyraeddiadau athrawon yr oeddynt i fynegi eu barn mewn dull "na fyddai'n digalonni dynion gwylaidd ond teilwng na chawsent ond ychydig o gyfleusterau addysg." Mewn rhai mannau byddai'n angenrheidiol iddynt gyflogi cynorthwywyr hyddysg yn y Gymraeg, ac wedi iddynt orffen eu gwaith disgwylid iddynt ffurfio barn am gyflwr cyffredinol dealltwriaeth a gwybodaeth y dosbarthiadau isaf yng Nghymru ac