yr oedd Ysgol Dr. Thomas Phillips yn y Neuaddlwyd, sir Aberteifi, ymhell o fod yn un ddibwys, ac eto dywedir wrthym mai dwy ystafell yn unig oedd yno, nad oedd ganddi nemor ddim cyfarpar, mai prin oedd ei dodrefn, nad oedd ganddi ddim un darlun, dim ond ychydig o lyfrau, a bod yr ysgolheigion (yn Gymry, Saeson a Gwyddelod) yn amrywio mewn oedran o laslanciau i ddynion canol oed, ac un llanc" barfog tua'r 45 yn cael ei adnabod fel "tadcu". Gwnaeth Lewis Williams, Llanfachreth, yntau lawer yn ei ffordd ei hun i gyfrannu elfennau darllen i blant ei ardal. Yn sicr, yr oedd ef ar ei ben ei hun hyd yn oed yn y dyddiau hynny oblegid agorodd ysgol cyn medru darllen ei hun. Er hynny, bu peth llwyddiant ar ei ymdrech oblegid dewisodd Thomas Charles ef yn un o'i ysgolfeistri yn 1799, ac ymhlith ei ddisgyblion yr oedd dau a ddaeth wedi hynny yn adnabyddus iawn—y Parch. Roger Edwards, yr Wyddgrug, a Mary Jones, yr eneth a gerddodd o Lanfihangel-y-Pennant i'r Bala i brynu Beibl.
Er caniatáu bod rhai eithriadau nodedig, eto, truenus ydoedd cyflwr yr ysgolion preifat. Peth anghyffredin oedd gweled Thomas Lloyd, Abergele, yn gwenu; ar un achlysur gwnaeth i blentyn gyffesu anonestrwydd trwy sefyll ei brawf gerbron rheithwyr o blith ei gyd— ddisgyblion a'i ddychryn yn fwy fyth trwy ddangos rhaff—cofier y gyrrid lladron yn aml yn y dyddiau hynny i'r crocbren. Y mae gennym, drachefn, ddisgrifiad Eben Fardd o'i brofiad yn blentyn pum mlwydd oed mewn ysgol a gedwid gan un o'r enw Richard Price yn Eglwys Llanarmon, Sir Gaernarfon. Yn yr oed tyner hwn fe'i cosbwyd yn greulon unwaith a'i gau yn yr Eglwys, a'r meistr annynol, mewn gwisg wen, yn codi'n araf o'r pulpud mewn rhith ysbryd. Bu ef, yn ddiamau, lawer mwy caredig wrth ei ddisgyblion ei hun yng Nghlynnog. Er enghraifft, pan aeth a'i ddisgyblion i Lanbedrog yn 1836 i'w holwyddori gan y Deon Cotton o Fangor, rhoes i'r ddau na chawsent wobrau gan y Deon ddimai yr un, gwerth grôt o fara, ychydig o fenyn, a chwart o gwrw rhyngddynt. Ond gwyddai Eben Fardd 'nid hael ond hael gartref' a dywed yn ei Ddyddiadur: "Cymerais innau hanner peint fy hun."
Yr oedd llawer o ysgolion o ryw fath, felly, yng Nghymru yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond ar y cyfan, yr oeddynt ymhell o fod yn foddhaol; nid oedd digon ohonynt, ac nid oeddynt yn ddigon da. Rhoes Daniel Owen ddarlun anfarwol inni o un o'r ysgolion hyn yn ei nofel Rhys Lewis. Nid "Robin y Sowldiwr" oedd yr unig fath o ysgolfeistr yng Nghymru yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond yn anffodus yr oedd gormod o rai tebyg iddo, a themtid un a fethodd ymhob crefft a galwedigaeth arall i agor ysgol. Ni ellir synnu at hyn pan gofir am yr holl anawsterau, adeiladau'r ysgolion, y llyfrau ysgol, ac yn arbennig gymwysterau a chyflogau'r athrawon. Pan agorodd Eben Fardd ei ysgol yng Nghlynnog yn 1827 cytunodd y Ficer i dalu iddo £3 y chwarter am ddysgu 24 o blant i ddarllen, pum swllt yn ychwaneg am gadw cyfrifon y Festri, a chyfrannai'r plwyf 6 swllt arall. Nid yw'n rhyfedd felly ei fod yn 1834,