ar wahân i ofalu am ei ysgol, yn cadw siop, yn rhwymo llyfrau ac yn pobi a gwerthu bara. Os prin yr oedd mynychu ysgol yn rhoddi mwynhad à lles, nid oedd cadw ysgol yn rhoddi na'r naill na'r llall.
Yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ffurfiwyd dwy Gymdeithas yn Lloegr i hyrwyddo addysg plant tlodion. Enw un ohonynt oedd The British and Foreign School Society (1808) ac enw'r llall oedd The National Society (1811). Joseph Lancaster oedd apostol y naill a Dr. Andrew Bell y llall, ond tra dysgai'r National Schools egwyddorion crefyddol Eglwys Loegr, yr oedd addysg grefyddol y British Schools yn gwbl anenwadol. Ar wahân i'r gwahaniaeth pwysig hwn nid oedd rhagor rhwng y ddwy Gymdeithas ar y dechrau. Cymdeithasau gwirfoddol oedd y ddwy gan eu bod yn dibynnu am eu harian ar roddion gwirfoddol a thaliadau am ysgol; yr oedd y ddwy yn awyddus i symud trueni ac anwybodaeth er mwyn cadw rheol a threfn, oblegid teimlent, fel y teimlai'r mwyafrif ar y pryd, fod pobl anwybodus yn fwy agored i'w cyffroi i derfysg; a mabwysiadodd y ddwy gyfundrefn y Monitors. Hawliai Bell mai ef a ddyfeisiodd y gyfundrefn hon, ond yn wir cawsai ei defnyddio'n helaeth cyn hyn ar y Cyfandir, ac mewn rhai o'r Ysgolion Élusen yn Lloegr. Buasai Bell gynt yn Arolygwr Cartref i blant amddifaid ym Madras. Yno, rhoesai hyfforddiant i'r disgyblion hynaf yn gyntaf ac yna gosod y goreuon ohonynt i ddysgu'r plant lleiaf. Yr oedd y gyfundrefn hon yn rhad iawn; tua 7 swllt a gostiai i addysgu plentyn am flwyddyn, ac yr oedd yn ddull penigamp i sicrhau cyflenwad o athrawon mewn amser byr. "Rhowch imi 24 o ddisgyblion heddiw" meddai Bell unwaith, "a chewch 24 o athrawon gennyf yfory."
Agorodd y ddwy Gymdeithas ysgolion ledled Lloegr a Chymru. Ar y dechrau ni roes y wladwriaeth ddim cymorth at y treuliau, ond yn 1833, pleidleisiodd 50 yn erbyn 26 yn Nhŷ'r Cyffredin dros roddi £20,000 i'w rannu rhyngddynt ar sail cyfraniad o bunt y bunt tuag at godi ysgolion. Cymorth bychan iawn oedd hwn, nid yn unig o'i gymharu â'r swm enfawr a werir heddiw ar addysg, ond o'i gymharu hyd yn oed â symiau eraill a delid y pryd hwnnw gan y Llywodraeth; er enghraifft, yn 1839, rhoes Llywodraeth Melbourne swm o £70,000 tuag at godi stablau'r Brenin yn Windsor. Ond er lleied oedd, amlygai'r cymorth ariannol cyntaf hwn gychwyn diddordeb y wladwriaeth mewn Addysg, ac yn raddol aeth ar gynnydd; yn 1839 caed £30,000, erbyn 1846 cododd i £100,000 ac yn 1946 darparodd y wladwriaeth bron 90 miliwn o bunnau tuag at bob adran o Addysg heb gyfrif y Prifysgolion, a heb gyfrif y symiau a godwyd mewn trethi gan yr Awdurdodau Addysg Lleol. Er mai ar gyfer adeiladu ysgol y rhoddwyd grantiau ar y dechrau caed cymorth yn ddiweddarach at godi tŷ-ysgol hefyd, ac wedi hynny at brynu offer gwaith i'r ysgolion.
Codwyd y "National School" gyntaf a agorwyd yn Nghymru ym Mhenley, Sir Fflint, mor gynnar à 1811, a mae'n ddiddorol sylwi bod ei thô gwellt yn aros heddiw, a'i hen enw-Ysgol Madras-yn para i lynu wrthi, gan ddwyn i gof y dyddiau a dreuliodd Andrew Bell yn