Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addysg yng Nghymru 1847-1947.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr India a'r gyfundrefn a fabwysiadodd yno. Hon oedd un o'r ychydig ysgolion a gafodd adroddiad ffafriol gan y Dirprwywyr yn 1847. Y pryd hynny addysgid 78 o fechgyn mewn un dosbarth gan yr athro, 73 o ferched dan ofal athrawes mewn dosbarth arall, a 15 Monitor i'w cynorthwyo. Fodd bynnag, ni ddechreuodd y National Society ar ei gwaith o ddifri yng Nghymru hyd tua 1837; yn y blynyddoedd nesaf gwnaeth gynnydd sylweddol. Er enghraifft, yn 1838, yr oedd 72 o'u hysgolion yn esgobaeth Bangor yn unig, a rhwng 1837 a 1846 cynyddodd rhif plant ysgolion Eglwys trwy'r wlad yn gyffredinol o 25,686 i 44,841.

James Henry Cotton, Deon Bangor

Bu cynnydd y Gymdeithas Frutannaidd yn fwy araf o lawer; gwaith anodd yn y dyddiau hynny oedd cael Anghydffurfwyr i gydweithio. O ganlyniad, nid oedd ond dwy ysgol Frutannaidd trwy Ogledd Cymru i gyd yn 1843 (yng Ngwrecsam a Phorthmadog), er bod rhai eraill wedi byw am ychydig; ac nid oedd ond ychydig mwy na hyn yn y De. Yn 1843, felly, âi'r mwyafrif o blant Cymru, os aent i ysgol o gwbl, i ysgol breifat neu i'r Ysgol Eglwys. Cadwai llawer o'r Anghydffurfwyr eu plant o'r ysgolion Cenedlaethol hyn am resymau enwadol, oblegid yng ngeiriau'r Deon Cotton " prif amcan yr Ysgolion Eglwys ydyw sylfaenu'r plant yn dda mewn gwybodaeth o'r Ysgrythur Lân, a'u trwytho yn egwyddorion yr Eglwys." Yr oedd hyn yn hollol naturiol ac yn iawn wrth gwrs o safbwynt yr Eglwys; wedi'r cwbl, ag arian yr Eglwys gan mwyaf y codwyd yr ysgolion. Ofnai'r Anghydffurfwyr, fodd bynnag (a hynny'r un mor naturiol) y byddai i'w plant, o fynychu'r ysgolion hyn, droi'n Eglwyswyr eu hunain, oblegid yn aml gorfodid hwy i fynd i'r Eglwys ar y Sul. Dyna'r safle yn 1843. Y flwyddyn honno, cyflwynodd yr Ysgrifennydd Cartref, Syr James Graham, Fesur Ffatrioedd newydd i'r Senedd. Yn y cyfnod hwnnw gweithiai plant bychain am oriau maith mewn ffatrioedd truenus, ac amcan Mesur Graham ydoedd gwella'u hamodau gwaith. Yr oedd ynddo un adran yn ymwneud ag addysg, a'r adran arbennig honno a fu'n achos cynnwrf buan, oblegid rhoes i'r Eglwys fesur helaeth o awdurdod i arolygu'r ysgolion. Teimlai'r Anghydffurfwyr petai'r Mesur hwn yn Ddeddf, y trosglwyddid addysg plant drwy'r wlad i'r Eglwys, a dyna'r peth olaf a ddymunent. Anghofiwyd megis dros nos y gwahaniaethau a'u rhannai cyhyd, a chytunwyd i hawlio tynnu'r Mesur yn ôl. Llwyddasant, ac ni bu sôn amdano mwy. Atebodd ddiben da; gwnaeth iddynt sylweddoli y dylent wneud rhywbeth eu hunain dros addysg eu plant, a bu dau ganlyniad pwysig i'r cynnwrf yng Nghymru.

Y canlyniad cyntaf ydoedd agor llawer o ysgolion Brutannaidd newydd yng Ngogledd Cymru. Yn yr un flwyddyn (1843) danfonwyd llythyr i'r Wasg yng Nghymru gan Hugh Owen, un o Gymry Llundain (yn ddiweddarach, Syr Hugh Owen, un o garedigion pennaf Addysg Cymru yn ystod y ganrif ddiwethaf) yn galw am i'r gwahanol enwadau uno i godi Ysgolion Brutannaidd yng Nghymru a rhoddi iddynt gyfarwyddiadau ynghylch sicrhau cymorth ariannol gan y Llywodraeth. Rhoddwyd derbyniad gwresog i'w lythyr mewn llawer cylch, gyda'r