Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addysg yng Nghymru 1847-1947.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddeng mlynedd (1843-1853), ac a arweiniodd i benodi Nefydd yn drefnydd Ysgolion Brutannaidd yn y rhan honno o Gymru fel y gwnaethai John Phillips mor llwyddiannus yn y Gogledd.

3

ADDYSGWYD Y DIRPRWYWYR A BENODWYD YN 1846 I WNEUD YMCHWILIAD i gyflwr addysg yng Nghymru yn Ysgolion Cyhoeddus Lloegr, ac wedi hynny yn Rhydychen neu yng Nghaergrawnt. Dynion galluog oeddynt, ond prin y gellir eu hystyried y rhai mwyaf addas i wneud ymchwiliad o'r fath. Ychydig a wyddent, hyd yn oed, am weithwyr Lloegr, llai fyth am werin Cymru. Yn bwysicach na hynny, ni fedrent Gymraeg, a syniadau rhyfedd oedd ganddynt am yr iaith a'i llenyddiaeth. Gan amlaf, yngynghorent hwy a'u cynorthwywyr â'r sgweiar neu â pherson y plwyf. Buasai hyn yn eithaf naturiol a phriodol mewn llawer man yn Lloegr, ond nid y gwŷr hyn, gyda rhai eithriadau amlwg, oedd y rhai mwyaf cymwys i roi darlun cywir o gyflwr pethau yng Nghymru y pryd hynny.

Er gwaetha'r diffygion hyn, gwnaeth y Dirprwywyr eu gwaith yn ddiwyd a thrwyadl. Gwnaethant eu gorau i fod yn deg. Pan fyddai angen am hynny ni phetrusent feirniadu'r gwŷr mawr; cystwyent y diwydianwyr mawr yn llymach fyth: dywedent yn erbyn yr Eglwys ar brydiau, er eu bod yn Eglwyswyr eu hunain; a chanmolent yr Ysgolion Sul Cymraeg a dealltwriaeth y bobl. Er hyn i gyd deffrôdd eu Hadroddiad lid cenedl gyfan. Ymhle, felly, yr aethant ar gyfeiliorn, os bu iddynt gyfeiliorni o gwbl?

Yn y lle cyntaf, dywedasant fod llawer iawn o anwybodaeth yng Nghymru, ac yr oedd hynny ynddo'i hun yn boen i'r Cymry. Dywedasant drachefn fod llawer o anwiredd, twyll, diogi, meddwdod ac anfoesoldeb yng Nghymru, a chyffrôdd hynny'r Cymry'n fwy fyth. Ond pan aethant i geisio esbonio'r sefyllfa drist ni wnaethant ond chwythu'r tân. Iddynt hwy yr oedd Cymru wedi suddo mewn anwybodaeth a phechod am ddau reswm; yr Iaith Gymraeg oedd un ac Anghydffurfiaeth Cymru oedd y llall. I bob diben, ystyr eu geiriau oedd bod y Cymry'n anwybodus ac anfoesol oherwydd eu bod yn siarad Cymraeg ac yn mynd i gapel yn hytrach nag i'r Eglwys. Rhaid inni gofio hefyd fod llawer mwy o bobl, yn ôl y boblogaeth, yn siarad Cymraeg yn y dyddiau hynny nag sydd heddiw, a llawer mwy o bobl a chanddynt ddiddordeb gwirioneddol mewn crefydd, a'r grefydd honno, gan mwyaf, yn troi o gwmpas y capel lleol.

"Mae'r iaith Gymraeg ", meddent, " yn anfantais ddirfawr i Gymru, ac yn rhwystr mewn llawer ffordd i ddatblygiad moesol a llwyddiant masnachol y bobl. Nid yw'n hawdd gorfesur ei heffeithiau niweidiol."