Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addysg yng Nghymru 1847-1947.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mewn geiriau eraill, mynegodd y Dirprwywyr eu barn ystyriol na wnai'r Cymry byth gynyddu mewn moes na masnach tra parhaent i siarad Cymraeg. Yr iaith Gymraeg oedd gwreiddyn pob drwg a flinai'r wlad y pryd hynny, hi ydoedd ffynhonnell ei hanwybodaeth, ei hanfoesoldeb, a'i Hanghydffurfiaeth. Yr oedd y feddyginiaeth wrth gwrs yn amlwg: darparu rhagor o ysgolion i ddysgu Saesneg yn effeithiol ynddynt ac yn y diwedd lladd y Gymraeg.

"Y mae'r bobl yn eu dymuno", medd yr Adroddiad, "ac nid oes yr amheuaeth lleiaf na bydd i addysg effeithiol, fydol a chrefyddol, ddyrchafu eu cyflwr naturiol a symud ymaith eu llygredd moesol."

Dyna'n fyr brif gasgliadau'r Ddirprwyaeth Ymchwil. Yr oedd y Dirprwywyr wedi camddeall cenedl gyfan a'i henllibio, a'r canlyniad oedd digllonedd ffyrnig. Ymunodd Cymry o bob enwad a phlaid, Whigiaid a Thoriaid, Eglwyswyr ac Anghydffurfwyr yn y frwydr i glirio enw da Cymru. Er na wnaeth y Llyfrau Gleision ddim oll i wella'r berthynas rhwng Cymru a Lloegr, buont yn foddion i uno'r Cymry o'r naill gwr o'r wlad i'r llall.

Aeth yr ymrafael heibio bron yn gyfan gwbl erbyn hyn, ond erys atgofion amdano o hyd. Gwaith anodd iawn, heb wybodaeth lwyr o gyflwr y mwyafrif, onid y cwbl, o ysgolion Cymru rhwng 1840 a 1850 ydyw penderfynu i ba raddau yr oedd y Dirprwywyr yn iawn wrth gondemnio addysg Cymru. A chaniatáu bod rhai eithriadau yma a thraw, y mae'n debyg i fwyafrif yr ysgolion haeddu'r cerydd a gawsant, a diddorol yw sylwi bod Kay Shuttleworth ei hun wedi rhoi beirniadaeth gyffelyb ar ysgolion Lloegr. Yr oedd yr adeiladau, yma ac yno, fel rheol ymhell o fod yn foddhaol. Cynhelid yr ysgolion Cymreig mewn capelau, siopau, bythynod, seleri, ceginau, llofftydd, a hyd yn oed mewn stablau; yr oedd llyfrau ac offer gwaith yn druenus o brin; a'r athrawon hwythau, lawer ohonynt, heb hyfforddiant, heb gyflog teilwng, a heb fod rhyw lawer ar y blaen i'r disgyblion y ceisient eu dysgu. "Mae anallu'r athrawon" meddai Symons "yn ddirfawr," ond bu'n ddigon teg i chwanegu "bod safle mwyafrif yr ysgolfeistri tua hanner y ffordd rhwng cyflwr tlotyn a labrwr iach." Nid yw'n syndod, felly, fod llawer ohonynt wedi dechrau addysgu "oherwydd eu bod naill ai'n rhy hen neu'n rhy ifanc ar gyfer gwaith caled," a bod eraill " wedi eu cymell i ddilyn yr alwedigaeth oherwydd colli aelod, colli golwg neu glyw, neu ryw anffawd arall." Ac am y cynllun gwaith, darllen ydoedd yn bennaf, gydag ychydig o sgrifennu a rhifo yma ac acw. Fel rheol anwybyddid daearyddiaeth, hanes, gramadeg, arlunio a chanu. Mewn gair, o edrych ar yr addysg o'r tu allan, fel y gwnaeth y Dirprwywyr, y mae llawer i'w ddweud dros eu syniadau; yr oedd yr adeiladau, yr offer gwaith a'r athrawon yn rhy aml yn wael iawn. A chydnabod hyn, fodd bynnag, nid yw'n dilyn bod y Cymry mor anwybodus ag y disgrifid hwy. Ni fedrent Saesneg, mae'n wir, ond nid yw hynny'n gyfystyr ag anwybodaeth; yn wir, rhoes y Dirprwywyr eu hunain gymeradwyaeth i'w gwybodaeth o'r Gymraeg. Yn anffodus cymerwyd yn ganiataol