Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addysg yng Nghymru 1847-1947.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mai gwybod Saesneg ydoedd gwybodaeth, a bod gwybod Cymraeg naill ai'n ddiwerth neu'n ddiffyg gwybodaeth. Yr oeddynt yn barod i addef fod gan y Cymro wybodaeth dda o'i iaith ei hun. "Y mae ganddo well meistrolaeth o lawer ar ei iaith nag a fedd Sais o gyffelyb radd ar Saesneg." Yr anffawd oedd na olygai hyn ddim iddynt, oblegid tybient hwy nad oedd dim gwerth yn y Gymraeg ac nad oedd wedi cynhyrchu "dim llenyddiaeth teilwng o'r enw"!

Yna daw'r cyhuddiad o anonestrwydd cyffredinol, twyll ac anfoesoldeb ymhlith y Cymry. Erbyn heddiw, y mae'n anodd iawn profi hyn na'i wrthbrofi, ond at ei gilydd ceir digon o dystiolaeth i awgrymu bod lleiafrif nad oeddynt yn byw yn deilwng o bobl a gyfrifid yn hoff o'u cyfarfodydd crefyddol. Mae'n wir nad oedd yr amgylchiadau ddim gwell yn Lloegr, ac y mae'n debyg eu bod yn waeth ar y Cyfandir, fel y dangosodd Henry Richard; ond nid yw hynny'n cyfreithloni dim. Mae'n debyg fod rhyw gymaint o wir yn y cyhuddiad arbennig hwn, ond aeth y Dirprwywyr ar gyfeiliorn eto mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, ffolineb noeth oedd eu honiad mai dyna gyflwr cyffredin y mwyafrif o'r Cymry. Yn ail, priodolent y llacrwydd hwn i'r iaith Gymraeg ac i Anghydffurfiaeth Gymreig, tra nad oedd a wnelo'r naill na'r llall mewn gwirionedd ddim ag ef. Gellir mentro dweud na fuasai cyflwr cymdeithasol a moesol y Cymry ddim gronyn gwell pe clywsid pob un yn siarad Saesneg a phe gwelsid hwy yn mynychu'r Eglwys yn hytrach na'r Capel. Ni bu'r Cymry'n araf i ddangos hyn, yn Eglwyswyr yn gystal ag Anghydffurfwyr. Yr oedd yn naturiol efallai i ddynion fel leuan Gwynedd, Henry Richard a Lewis Edwards wrthdystio'n egniol, oherwydd Anghydffurfwyr Cymraeg oeddynt, ond yr oedd Eglwyswyr Saesneg fel yr Esgob Thirlwall o Dŷddewi a'r Deon Cotton o Fangor yr un mor ddig, heb sôn am Eglwyswyr Cymraeg fel Syr Thomas Phillips. "Nid oes nac Eglwyswr nac Anghydffurfiwr yn awr", meddai Syr Thomas Phillips, "yn holi a yw'r cyhuddiadau, y cwyna'r ddau o'u plegid, yn fwy o sarhad arno ef nag ar ei wrthwynebydd."

4

ANFYNCH Y MAE CYNNWRF FEL HWN YN GWBL DDI-LES. Gwnaeth cyhoeddi'r Llyfrau Gleision un peth o leiaf yn hollol glir i bawb yng Nghymru, sef sylweddoli grym dadl Kay Shuttleworth na cheid byth wir gynnydd mewn addysg nes sicrhau i Gymru gyflenwad da o athrawon wedi eu hyfforddi. Golygai hyn sefydlu Colegau Hyfforddi. Hyd yma cawsai athrawon ysgolion Brutannaidd o Gymru eu hyfforddi yng Ngholeg Hyfforddi Borough Road, Llundain, ar ychydig o gostau personol. Am chwe swllt yr wythnos cawsent addysg, bwyd a llety, golchi eu dillad a gwasanaeth meddygol.