
Ond aeth Coleg Borough Road yn rhy lawn i'w derbyn i gyd, a bu raid cau 35 o ysgolion yng Ngogledd Cymru yn unig oherwydd prinder athrawon wedi eu hyfforddi, a methodd rhai eraill ag ennill cymorth ariannol oherwydd eu bod yng ngofal athrawon heb drwydded. Hyfforddwyd rhai athrawon yng Ngholeg y Bala, ond nid oedd hynny'n ddigon; yr unig ffordd allan o'r anhawster ydoedd sefydlu Coleg Normal yng Nghymru ei hun. Cyfeiriwyd eisoes at Ysgol Normal Aberhonddu a sefydlwyd yn 1846, ond byr fu hoedl honno oblegid dibynnai'n gyfangwbl ar gyfraniadau gwirfoddol. Yn hyn o beth, fel gyda chodi ysgolion, yr oedd yr Eglwys ar y maes yn barod. Dan arweiniad y Parch. Thomas Thomas, ficer Caernarfon, agorwyd adran Normal yn Ysgol Genedlaethol Caernarfon yn 1846; yn 1849 symudodd i adeilad arall dros dymor gyda'i Brifathro ei hun; yn 1856 daeth yn goleg preswyl i Ogledd Cymru; a symudodd i Fangor yn 1894. Coleg Hyfforddi Athrawesau ydyw ei olynydd, Coleg y Santes Fair, heddiw. Yn Neheudir Cymru, yn bennaf trwy lafur Esgob Thirlwall a'r Pwyllgor Addysg Cymreig a ffurfiwyd yn 1846 i godi Ysgolion Cenedlaethol, agorwyd Coleg Hyfforddi Caerfyrddin yn 1848.
Ym mis Ebrill 1856 daeth Syr Hugh Owen a rhai o'i gyfeillion i Fangor er mwyn trafod, ymhlith materion eraill, yr angen am Goleg Hyfforddi yng Ngogledd Cymru. Yr oedd pawb yn frwdfrydig iawn yno, a chaed cyfarfod arall ym mis Gorffennaf yn Rhyl pryd y penderfynwyd sefydlu Coleg ym Mangor. Ymgymerth John Phillips eto a'r gwaith llafurus o greu diddordeb o'i blaid ymysg y Cymry a chasglu rhoddion. Teithiodd yn ddiflino i bob rhan o Gymru, i Lerpwl, Manceinion a Llundain, a chasglwyd £11,500 i gyfarfod cymorth ariannol o £2,000 oddi wrth y Llywodraeth. Derbyniwyd cyfraniadau oddi wrth y prif sefydliadau crefyddol, mewn symiau amrywiol, a'r Methodistiaid Calfinaidd ar y blaen gyda £10,786 6s. 3d.. Agorwyd y Coleg yn 1858, dros dro yn Festri Capel Twrgwyn, Bangor, yna mewn dau dy-annedd. Yn Awst 1862, yr oedd yr adeiladau newydd yn barod gyda lle i 40 o fyfyrwyr, ac yn briodol iawn dechreuodd Coleg Normal, Bangor, ei yrfa â John Phillips yn Bennaeth arno.
Yn y cyfamser bu cryn weithgarwch ynglŷn â chodi ysgolion yng Nghymru; agorwyd nifer mawr o Ysgolion Cenedlaethol, Ysgolion Brutannaidd ac Ysgolion Gwirfoddol. Nid oedd derbyn cymorth y Llywodraeth na hyd yn oed adeiladu ysgol mewn tref neu bentref yn golygu bod i'r ysgol oes hir. Er hynny, yr oedd nifer yr ysgolion yn uwch yn 1870 nag yn 1850. Yn Nhachwedd 1863 cymerodd David Williams, Prifathro "Ysgol y Copper Works," Llanelli, le Nefydd fel trefnydd y Gymdeithas Frutannaidd yn Neheudir Cymru, ac erbyn 1870 medrai gyhoeddi bod 98 o ysgolion newydd wedi eu hadeiladu, 120 o rai eraill wedi eu hagor, a bod cyfanswm Ysgolion Brutannaidd yng Nghymru y flwyddyn honno wedi cyrraedd 302; o'r rhain yr oedd 97 yn y Gogledd a 205 yn y De. Er nad oes ystadegau ar gael yn rhoddi nifer Ysgolion Cenedlaethol yng Nghymru yn y flwyddyn honno, byddai'n ddiogel cymryd yn ganiataol fod y nifer wedi