Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addysg yng Nghymru 1847-1947.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cynyddu'n fawr ar ôl ffurfio'r Pwyllgor Addysg Cymreig. Erbyn 1870 felly yr oedd mwy o ysgolion yng Nghymru nag erioed o'r blaen, ac yr oedd ychydig o Golegau Hyfforddi hefyd.[1]

5

YN 1846, CYCHWYNNODD JAMES KAY SHUTTLEWORTH, YSGRIFENNYDD Pwyllgor y Cyfrin Gyngor ar Addysg, gynllun i gynhyrchu gwell athrawon a gwella cyfundrefn y Monitors a fu mewn bri am genhedlaeth. Yr oedd darpar-athrawon i'w derbyn fel "disgybl-athrawon" neu fel Monitors cyflogedig mewn ysgolion arbennig am bum mlynedd i'r naill a phedair blynedd i'r llall. Yn ystod y tymor hwn, yr oeddynt i dderbyn cyflog bychan, i gael eu haddysgu gan y Prifathro am o leiaf awr a hanner cyn oriau ysgol neu wedi iddi orffen bob dydd; i gael cyfleusterau i wylio athrawon eraill wrth eu gwaith ac i ymgymryd â dysgu plant ar rai adegau eu hunain. Ar derfyn tymor eu prentisiaeth yr oedd y disgybl—athrawon yn gymwys i gynnig am gymorth ariannol a chael mynd i Goleg Hyfforddi fel "Ysgolorion y Frenhines," ac os enillent dystysgrif ar ddiwedd eu cwrs yn y Coleg gallent hawlio grant" gan y Llywodraeth yn ychwanegol at eu cyflog arferol. Dyna'r ffordd yr aeth llawer o athrawon i'w galwedigaeth a cheir cyfeiriadau mynych atynt mewn hen "Log Books." Yn naturiol yr oedd rhai o'r prentisiaid hyn heb fod mor ddiwyd ag eraill, ac yr oedd hyn yn arbennig o wir am y Monitors. Profodd y demtasiwn o golli'r gwersi boreol yn ormod i lawer ohonynt, ac yn ei ddigofaint ysgrifennodd un ysgolfeistr fel hyn:

"Ni ddaw y Monitors yn brydlon i'w gwersi boreol (a rhwng wyth a naw o'r gloch y cynhelid y dosbarth hwn)—dygir egnion y Meistr i rym i raddau helaethach na dim a ganiateir gan Wyddor Iechyd."

Yn anymwybodol o hiwmor ei ymadrodd ychwanegodd:

"Mae'n ddiau bod hadau addysg yn cael eu hau yn helaeth."

Yn ddiamau, y digwyddiad pwysicaf yn hanes addysg elfennol yn y cyfnod hwn ydoedd y gyfundrefn o dalu "grant" gan y Llywodraeth, cyfundrefn a adwaenid yn ddiweddarach dan yr enw "Payment by Results." Dyn goleuedig oedd Kay Shuttleworth, dyn yn byw ymhell o flaen ei oes; er enghraifft, gwerthfawrogai le'r iaith Gymraeg yn ysgolion Cymru ac awgrymodd y dylid gosod papurau arholiad yn y Gymraeg i'r myfyrwyr yng Ngholeg Hyfforddi Caerfyrddin fel y ceid athrawon dwy-ieithog da. Yn 1849, fodd bynnag, dilynwyd ef gan


  1. Ceir darlun da fywyd yn yr ysgolion yn y cyfnod hwn, ac o ymdrechion rhai o'r disgyblion mwyaf addawol am fynediad i'r Colegau, oddiwrth hunangofiannau diddorol tri o ddynion, a phog un ohonynt yn berson nodedig yn ei ffordd ei hun —Robert Roberts, Y Sgolor Mawr, Syr Henry Jones a'r Dr. John Lloyd Williams.