Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addysg yng Nghymru 1847-1947.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lingen, un o Ddirprwywyr 1846. Yr oedd Lingen yn awyddus i gynilo ar ôl Rhyfel y Crimea a'i waith ef, yn bennaf, oedd "Revised Code" Robert Lowe yn 1862. Canlyniad hwn oedd seilio taliadau i'r ysgolion ar bresenoldeb y disgyblion ac ar ganlyniad arholiad mewn darllen, ysgrifennu, a rhifo—y tair R[1]—dan gyfarwyddyd yr Arolygwr. Am bob plentyn a fyddai'n bresennol 200 o weithiau, ac a fyddai'n llwyddiannus mewn arholiad yn y pynciau hyn, telid 2s. 8c. Yn ddiamau gellid dweud rhywbeth o blaid y gyfundrefn hon. Bu'n gymorth i ddeffro prifathrawon ac athrawon a fyddai'n tueddu i ollwng eu gafael, a rhoes bwyslais ar dair cangen bwysig y dylai pob plentyn fod yn hyddysg ynddynt. Er hyn i gyd, yr oedd ynddi ddiffygion difrifol, a disgrifiwyd hi'n deg fel "talp o ffolineb digyffelyb." Os, fel y digwyddai'n gyffredin, y gwyddai'r ysgolfeistr fod y "grant (ac felly ran o'i gyflog yntau) yn dibynnu ar wybodaeth ei ddisgyblion o'r "tair R" yn yr arholiad blynyddol, byddai'n demtasiwn iddo beido â dysgu iddynt nemor ddim heblaw y pynciau hyn o un arholiad i'r llall, a'u dysgu yn y dull mwyaf peiriannol ac undonnog. Dyna'r union beth a ddigwyddai mewn llawer ysgol. Dydd yr arholiad oedd y dydd pwysicaf, a'r mwyaf arswydus, ym mywyd yr ysgol. Hysbysid y dyddiad ymlaen llaw, rhybuddid y plant i ddod i'r ysgol yn lân ac yn eu dillad gorau, a phan gyrhaeddai'r Arolygwr yn ei bryd fel petae o fyd arall, gosodid y plant a oedd i'w arholi, gefn yng nghefn, mewn rhengau, a'u llechi yn eu dwylo, yn barod i wynebu'r prawf. Ac yn wir, prawf llym ydoedd. Nid rhyfedd oedd i blant nerfus, wrth geisio dyfalu beth a ofynnai'r Arolygwr neu beth a ddywedai'r Meistr wedi i'r Arolygwr fynd ymaith, ollwng eu llechi a mynd yn fwy nerfus fyth.

O ganlyniad cyfrifid y gyfundrefn o dalu'n ôl y canlyniadau yn un anhapus iawn. Yr oedd ei heffaith yn anffodus iawn yn Lloegr, ond yr oedd yn waeth fyth yng Nghymru oherwydd darllen ac ysgrifennu Saesneg yn unig oedd y prawf; nid oedd dim lle i'r Gymraeg gan nad oedd dim gwerth ynddi. Dyna un rheswm paham y diflannodd y Gymraeg mor llwyr o'r rhan fwyaf o'r ysgolion. Nid oedd iddi werth masnachol ac ni allai byth godi cyflog yr ysgolfeistr; yn wir, pe rhoddai lawer o'i amser i'w dysgu i'w ddisgyblion, a cholli'r amser hwnnw gyda'r gwersi Saesneg, gallai hynny olygu lleihad yn ei gyflog. A chan fod yr ysgolfeistri hwythau, yn nodweddiadol o Gymry'r cyfnod hwnnw, yn ddynion gochelgar, derbyniasant y polisi swyddogol ac ymlid y Gymraeg o'u hysgolion. Dysgent y "tair R"; dysgai llawer ohonynt hanes, daearyddiaeth, cerddoriaeth, elfennau iechyd a gwnio, ond anfynych y rhoddent sylw i'r Gymraeg. Yn wir, cynrychiolydd teilwng o'i gyd-athrawon oedd y prifathro hwnnw mewn ysgol ym mherfedd y wlad a groniclodd gyda balchder yn ei "Log Book" ddarfod iddo roi gwersi arbennig ar gopr, arian, sidan, gwneud porslen, "cocoanut," a'r "major sharp scales." Anwybyddodd yn llwyr iaith a hanes ardal a fu'n fagwrfa gyfoethog i Gymry enwog.

Gan ysgolfeistri'r genhedlaeth hon y defnyddid y "Welsh Not," sef darn o bren neu gerdyn a grogid am wddf y sawl a glywid yn siarad Cymraeg yn yr ysgol. Trosglwyddid ef o blentyn i blentyn yn

  1. y tair R=Reading, wRiting ac aRithmatic