ystod yr wythnos ac yr oedd cosb drom yn aros y neb a'i gwisgai ar brynhawn Gwener. Dyma a ddywaid un o'r Dirprwywyr amdano—
Tynnwyd fy sylw gan ddarn o bren a grogai wrth linyn am wddf un o'r bechgyn â'r geiriau "Welsh Stick" arno. Dywedwyd wrthyf mai nôd gwaradwydd ydoedd am siarad Cymraeg. Mewn gwirionedd yr unig ddewis iddo oedd siarad Cymraeg neu beidio â dweud dim. Ni ddeallai mo'r Saesneg ac ni chai ymarfer cyson i ddysgu deall."
At ysgol Llandyrnog, yn Nyffryn Clwyd, y cyfeiria'r geiriau hyn a dyna gyflwr echrydus addysg yng Nghymru yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gan mlynedd cyn hyn dywedodd Griffith Jones, Llanddowror, y byddai'r un mor ddifudd ceisio dysgu plant o Saeson drwy'r Ffrangeg å dysgu plant Cymru drwy'r Saesneg. Anghofiwyd ei eiriau doeth, a hynny, sylwer, cyn i Reolau Robert Lowe ddod i rym. Mae'n rhaid gosod cyfran o'r cyfrifoldeb ar rieni'r genhedlaeth honno. Ni ddymunent i'w plant ddysgu Cymraeg o gwbl; anfonent hwy i'r ysgol i ddysgu Saesneg. Yn y dyddiau pryd nad oedd Robert Lowe ond bachgen, ni siaradai Thomas Lloyd, Abergele, â disgybl o Gymro uniaith ond trwy gyfieithydd Saesneg; a disgwyliai Dr. Phillips, Neuaddlwyd, i'r Monitor gasglu 9 c. o leiaf, bob wythnos, mewn dirwyon gan ddisgyblion am gam—ymddwyn ac am siarad Cymraeg, fel y medrai ef brynu ei ddwy owns arferol o faco!
6
RHWNG 1860 A 1870 DAETH CYNNYDD GWASTAD YN Y GALW AM gyfundrefn addysg genedlaethol. Gwledydd dysgedig, neu o leiaf gwledydd â chanddynt gyfundrefn genedlaethol o addysg, a ymddangosai'n fwyaf llwyddiannus mewn rhyfel; yn y Rhyfel Cartref yn America, y Gogledd a drechodd y De, a gorchfygesid Awstria gan Prwsia yn 1866. Yn bwysicach fyth, rhoes "Reform Act" 1867 y bleidlais am y tro cyntaf i nifer mawr o weithwyr y trefi, ac yr oedd angen rhoi addysg i'r rhain er mwyn iddynt ddefnyddio'u rhagorfraint yn ddoeth. Canlyniad hyn i gyd oedd Deddf Addysg Forster yn 1870.
Erbyn hyn, er i'r Cymdeithasau Cenedlaethol a Brutannaidd agor cannoedd o ysgolion yng Nghymru, yr oedd eto le i gynnydd. Er enghraifft yn 1869 yr oedd 92 o blwyfi yn siroedd Aberteifi, Caerfyrddin, a Phenfro, a'r boblogaeth ymhob un ohonynt dros 400, heb gymaint ag un ysgol gydnabyddedig gan y Llywodraeth, ac yr oedd plwyfi eraill mewn sefyllfa gyffelyb trwy'r holl wlad. Gwnaethai Nefydd a David Williams waith da trwy sefydlu Ysgolion Brutannaidd yn Neheudir Cymru, ond bu raid iddynt wynebu llawer o anawsterau—prinder arian, prinder athrawon cymwys, diffyg safleoedd addas i godi ysgolion arnynt, difaterwch y bobl ac, yma a thraw, deimladau enwadol