chwerw. Yn 1870, felly, y lleiafrif yn unig o blant Cymru a dderbyniai addysg, a chan nad oedd addysg eto'n orfodol na rhad ni fynychent ysgol yn gyson ac ymadawai y rhan fwyaf ohonynt heb dderbyn mwy na blwyddyn neu ddwy o addysg. I'r rhieni, nid oedd addysg ond "manwerth i'w brynu fel prynu menyn wrth yr owns" (ys dywed y Llyfrau Gleision), a chanlyniad hyn oedd bod presenoldeb eu plant yn yr ysgol yn hollol anghyson ac yn achos blinder parhaus i'r ysgolfeistri. Ar un achlysur danfonodd prifathro ysgol yng Ngogledd Cymru ei athrawon i gydi annos ei ddisgyblion absennol, ond dewisodd ei gyfaill yn Llanfrothen ddull gwahanol:
"Fel cymhelliad i bresenoldeb cyson, i ymddygiad da ac i weithgarwch," meddai, "byddaf yn gwobrwyo'r goreuon ymhob dosbarth bob mis à chopi o'r Band of Hope Review, Infants Magazine neu'r Children's Friend, ac y mae'r plant yn eu gwerthfawrogi'n fawr."
Rhoes Deddf Addysg Forster chwaneg o gymorth ariannol tuag at Ysgolion Gwirfoddol, a galwodd am adeiladu ysgolion newydd lle'r oedd angen amdanynt. I'r pwrpas hwn, yr oedd Byrddau Ysgol (School Boards) i'w hethol ymhob plwyf, ac yr oedd y Byrddau hyn i ddarparu ar gyfer codi Ysgol Fwrdd trwy gymorth ariannol oddi wrth y Llywodraeth, trethi lleol a thaliadau ysgol. Caniateid i'r Ysgolion Gwirfoddol barhau i ddysgu eu hathrawiaethau crefyddol eu hunain, ond yr oedd addysg grefyddol i fod yn anenwadol yn yr Ysgolion Bwrdd. Gallai rhieni â chanddynt wrthwynebiad i addysg grefyddol gadw eu plant o'r ysgol yn ystod y gwersi crefyddol. Yn fuan wedi 1870 codwyd cannoedd o Ysgolion Bwrdd yng Nghymru. Cyn hyn, bu'r wladwriaeth yn fodlon ar estyn cymorth i'r cymdeithasau gwirfoddol i adeiladu ysgolion, yn awr cymerth y blaen i godi ysgolion ei hun.
Rhoes Deddf 1870 allu hefyd i'r Byrddau Ysgol i wneud eu mân- ddeddfau eu hunain a gorfodi plant rhwng 5 a 13 oed i fynd i'r ysgol. Gwnaed hyn gan rai o'r Byrddau ond gwrthododd y mwyafrif ohonynt, ac oherwydd i'r rhai a wnaeth ganiatau cynifer o eithriadau ni chaed ond ychydig iawn o welliant. Yn 1880 caed Deddf arall a'i gwnaeth yn orfodol i bob plentyn fynychu ysgol hyd 13 oed, a phenodwyd swyddogion i'w rhoddi mewn grym.
Un mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach daeth diwedd ar dalu am ysgol. Hyd hynny disgwylid i blant ymhob math o ysgol—Cenedlaethol, Brutannaidd a Bwrdd—dalu dwy geiniog neu dair bob wythnos; disgwylid iddynt hefyd brynu eu llyfrau eu hunain ac yn aml iawn gyfrannu tuag at gostau'r tanau. Rhoes hyn faich trwm ar y rhieni yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd cyflogau mor isel, a hynny a gyfrifai i raddau am ddiffyg presenoldeb y plant yn yr ysgolion a'u symud ohonynt mor fuan. Modd bynnag, daeth newid ar y cwbl yn 1891; yr oedd addysg elfennol bellach yn rhydd. Arweiniodd hyn, gyda chymorth egniol "plismon y plant," i bresenoldeb mwy cyson o du'r plant ac i fwy o barodrwydd o du'r rhieni i ddanfon eu plant i'r ysgol.