Erbyn hyn yr oedd yng Nghymru gyfundrefn o addysg elfennol ar gyfer pob ardal, ond er i'r ysgolion wneud llawer o les i'w disgyblion buont o fewn y dim i ladd yr iaith Gymraeg. Yr oedd Rheolau Lowe mewn grym o hyd, a pharhâi mwyafrif y Cymry i ddanfon eu plant i'r ysgol i ddysgu Saesneg; cafodd iaith, llenyddiaeth, hanes a daearyddiaeth Cymru eu hanwybyddu bron yn llwyr. "Gwnes reol yn gwahardd siarad Cymraeg yn oriau'r ysgol" meddai prifathro Llanfrothen yn 1870; ychydig cyn hynny ceir cofnodiad iddo "gasglu 1/2 mewn dirwyon yn yr ysgol nos yn ystod y gaeaf; telid ½c. gan y disgybl a wisgai'r 'Welsh Not' ar ddiwedd bob cyfarfod."
Rhoed her i'r sefyllfa hon gan nifer o bersonau. Un ohonynt oedd yr Athro Thomas Powell o Gaerdydd, a ddadleuai dros ddefnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng addysg yn ysgolion Cymru. Hawliai y dylid dysgu'r iaith er ei mwyn ei hun a'i chydnabod fel "pwnc penodol." Un arall oedd Dan Isaac Davies, a'r trydydd oedd O. M. Edwards— yn ddiweddarach Syr Owen Edwards. Yr oedd Dan Isaac Davies ac "O.M." yn Gymry pybyr, bu'r ddau yn Arolygwyr Ysgolion (ar adegau gwahanol) a gwnaeth y ddau waith mawr dros iaith a diwylliant Cymru, y naill trwy ei ymdrechion fel Arolygwr Ysgolion yn Neheudir Cymru a'r llall trwy ei lyfrau difyr a thrwy ei waith fel Prif Arolygwr. Dylid cyfeirio hefyd at Thomas Darlington, Sais a ddysgodd Gymraeg, ac un a wnaeth waith cyffelyb fel Arolygwr Ysgolion yng Ngogledd Cymru.
Hyd yma rhoesid grant am ddysgu pynciau cyffredinol (y "tair R") a gwnio, a hefyd am ddysgu rhai "pynciau penodol" megis daearyddiaeth a gramadeg. Dadleuai Powell a Davies dros gydnabod Cymraeg fel pwnc penodol, cefnogwyd hwy gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac o 1888 ymlaen rhoed y Gymraeg ar yr un tir ag Erse a oedd eisoes yn bwnc penodol yn Iwerddon. Er hyn i gyd, ychydig o gynnydd a wnaed am beth amser. Yr oedd llywodraethwyr ysgolion wedi penodi Saeson uniaith yn brifathrawon ac ni theimlai y rhain fod unrhyw rwymedigaeth arnynt i ddysgu Cymraeg. Mwy na hynny, yr oedd llawer o athrawon yn anfodlon i ddysgu Cymraeg a llawer o Fyrddau Ysgol yn anfodlon caniatáu i'r iaith gael ei dysgu. Rhaid oedd gwneud rhywbeth i'w hargyhoeddi o bwysigrwydd rhoddi lle priodol i iaith a thraddodiadau Cymru yn yr ysgolion, a daeth y cyfle yn 1902.
Yn y flwyddyn honno daeth Deddf Balfour i rym. Achosodd lawer o siarad ar y pryd, a chryn lawer o chwerwder, ond trwy ad-drefnu'r peirianwaith gweinyddol bu'n foddion i achub yr iaith Gymraeg. O dan y Ddeddf hon sefydlwyd ymhob Sir Awdurdod Addysg Lleol; yr Awdurdodau hyn oedd yn gyfrifol bellach am yr Ysgolion Cyngor yn eu cylch, a daeth yr Ysgolion Bwrdd i'w hadnabod o hynny ymlaen fel Ysgolion Cyngor. Ystyr hyn i gyd ydoedd, os penderfynai Awdurdod Addysg Lleol fod y Gymraeg i'w dysgu yn eu rhanbarth, yna disgwylid i bob ysgol yn y rhanbarth hwnnw (sef y sir, neu pwrdeisdref neu pwrdeisdref sirol neu ynteu ranbarth dinesig) ddysgu Cymraeg. I'r bobl a ddymunai ennill ei lle priodol i'r Gymraeg yr