oedd y broblem bellach yn haws o lawer; yn hyrrach na cheiso argyhoeddi ugeiniau o Fyrddau Ysgol a rheolwyr ysgolion gelwid arnynt i argyhoeddi nifer cymharol fychan o Awdurdodau Addysg Lleol.
7
ER MAI AG ADDYSG GYNRADD Y MAE A WNELO'R LLYFRYN HWN YN bennaf rhaid dweud gair am Addysg Uwchradd; ni byddai hanes addysg yng Nghymru yn ystod y ganrif ddiwethaf yn gyflawn heb gyfeirio at yr Ysgolion Uwchradd. Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yr unig ysgolion Uwchradd oedd yr hen Ysgolion Gramadeg ysgolion fel y Friars ym Mangor, ysgol y Bontfaen, ac Ysgol y Frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin. Yn y flwyddyn 1880 cyfanrif yr ysgolion hyn ac ysgolion gwaddol eraill mwy diweddar (fel Llanymddyfri) oedd 27; ynghyd â 79 o ysgolion preifat, darparent addysg uwchradd ar gyfer tua 4,000 o fechgyn yr adeg honno. Nid oedd ond tair o ysgolion Uwchradd i ferched—Ysgol Dr. Williams, Dolgellau, ac Ysgolion Howell yn Ninbych a Llandaf.
Yn 1880 penododd Gladstone bwyllgor i wneud ymchwiliad i'r ddarpariaeth ar gyfer Addysg Uwchradd ac Addysg Golegol yng Nghymru. Cyfrifir hwn yn bwyllgor enwog ac adwaenir ef yn gyffredin fel Pwyllgor Aberdâr (Arglwydd Aberdâr oedd y Cadeirydd). Erbyn 1880 yr oedd pedwar Coleg Hyfforddi wedi eu sefydlu, a Choleg Brifysgol (a gynhelid yn gyfangwbl gan roddion gwirfoddol) wedi ei agor yn Aberystwyth yn 1872. Awgrymodd y Pwyllgor y dylid sefydlu dau Goleg ychwanegol, y naill yn y Gogledd a'r llall yn y De. Dyna'r ffordd y daeth Coleg y Brifysgol i Gaerdydd yn 1883 ac un arall i Fangor yn 1884. Rhoes y Llywodraeth i bob un o'r ddau (ac i Aberystwyth hefyd ar ôl hyn) y swm o £4,000 yn y flwyddyn. Yn y dechrau paratoid myfyrwyr y Colegau hyn ar gyfer arholiadau Prifysgol Llundain, ond yn 1893, trwy ymdrechion y Prifathro John Viriamu Jones, Caerdydd, yn bennaf, caed Siarter Frenhinol Prifysgol Cymru, a hawl i'r Brifysgol i roddi ei graddau ei hun. Pan agorwyd Coleg Abertawe yn 1920 cymerodd ei le yn y Brifysgol fel y tri Choleg arall.
Yn y blynyddoedd cyntaf sicrhau digon o fyfyrwyr i'r Colegau hyn oedd y broblem fwyaf. Yr oedd yn amlwg na ellid disgwyl i ddisgyblion yr ysgolion elfennol fynd yn syth i Goleg; gwelwyd fod angen am addysg ganolradd rhwng yr ysgol elfennol a'r Coleg. Sylweddolwyd hyn gan Bwyllgor Aberdâr ac awgrymwyd codi Ysgolion Canol trwy'r wlad a'u cynnal o'r trethi lleol ynghyd â grantiau'r Llywodraeth. Yr oedd y syniad hwn yn newydd iawn ar y pryd, oherwydd er y cawsid cymorth y Llywodraeth tuag at Addysg elfennol o'r flwyddyn 1833 ni wnaed dim oll i hyrwyddo addysg uwchradd. Er hynny derbyniwyd yr awgrym a chaed Deddf Addysg 1889. Rhoes hon awdurdod i'r Cynghorau Sir a'r Cynghorau Bwreisdrefi Sirol a oedd