newydd eu sefydlu i godi treth o ddimai, ac addawodd y Llywodraeth gyfrannu punt am bob punt a gesglid trwy y dreth a thrwy roddion gwirfoddol. Canlyniad uniongyrchol hyn ydoedd adeiladu nifer o ysgolion Canol (neu Ysgolion Sir, fel y gelwid hwy yn gyffredin) yn y rhan fwyaf o drefi marchnad Cymru; agorwyd yr ysgol gyntaf yng Nghaernarfon yn 1894.
Yn fuan daethpwyd i deimlo'r angen am sefydlu rhyw safon gyffredin i brofi gwaith yr ysgolion hyn, rhyw drefniant i arholi gwaith y disgyblion ac i arolygu bywyd yr ysgolion. Hyn oedd y rheswm dros sefydlu Bwrdd Canol Cymru yn 1896, i arholi ac arolygu yr Ysgolion Sir a sefydlwyd dan Ddeddf 1889, ac yn ddiweddarach i arholi y rhan fwyaf o'r Ysgolion Uwchradd a sefydlwyd dan Ddeddf 1902. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg felly yr oedd gan Gymru gyfundrefn o addysg uwchradd, ac yn y "C.W.B." yr oedd ganddi sefydliad a geisiai roddi safon i'r ysgolion ieuainc hyn.
8
RHAID TRAFOD GWEDDILL YR HANES YN FYR. CAED LLAWER O ddatblygiadau pwysig yn ystod y deugain mlynedd diwethaf, ond nid oes yma le i gyfeirio at fwy na thri ohonynt. Y cyntaf, o ran amser, oedd sefydlu Adran Gymreig y Bwrdd Addysg. Sefydlwyd y " Bwrdd " ei hun yn 1899, gyda Llywydd yn bennaeth arno, i ddwyn ymlaen y gwaith a gychwynnwyd gan Bwyllgor y Cyfrin Gyngor yn 1839. Gwnaed ymgais, yn 1906, i sefydlu Cyngor Addysg Cenedlaethol i Gymru, ond ni dderbyniwyd y Mesur yr oedd y ddarpariaeth hon yn rhan ohono gan y Senedd, ac yn ei le ffurfiwyd Adran Gymreig y Bwrdd Addysg yn 1907. Pennaeth cyntaf yr Adran Gymreig oedd Mr. (wedi hyn Syr) Alfred T. Davies, a'r Prif Arolygwr cyntaf oedd Owen M. Edwards. Yr oedd "O.M." yn awr mewn gwell safle nag erioed i gefnogi defnyddio'r Gymraeg a dysgu hanes, daearyddiaeth a llenyddiaeth Cymru yn yr ysgolion.
Yr ail ddatblygiad pwysig a diddorol ydyw tyfiant yr Ysgolion Canolog (Central and Senior Schools). Tua diwedd y ganrif ddiwethaf caed fod nifer o blant yn aros yn yr ysgol elfennol ar ôl mynd trwy'r seithfed safon, sef y dosbarth uchaf. Mewn llawer o ysgolion ffurfiwyd dosbarthiadau arbennig ar eu cyfer, ac ambell dro trefnid i'r plant hyn o nifer o ysgolion cyfagos fynd i un ysgol ganolog neu Ysgol Uwchraddol. Ond ni bu llawer o ddatblygu ar y math yma o ysgol hyd y blynyddoedd ar ôl y Rhyfel Mawr, 1914-18. Yn 1926, cyhoeddwyd adroddiad Pwyllgor, dan lywyddiaeth Syr Henry Hadow, ar yr addysg orau ar gyfer disgyblion rhwng 11 a 15 oed nas derbyniwyd i'r Ysgolion Gramadeg neu'r Ysgolion Sir. Daeth yr adroddiad yn adnabyddus fel "Adroddiad Hadow." Caed ynddo gymhellion cryf