Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addysg yng Nghymru 1847-1947.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

godi ysgolion llai academaidd na'r ysgolion Gramadeg ar gyfer y plant hyn a mwy o ddarpariaeth ynddynt at waith ymarferol. Erbyn hyn y mae llawer o Ysgolion Canolog i'w cael yng Nghymru; daeth Syr Henry Hadow ei hun i agor y gyntaf ohonynt yn Shotton, Sir Fflint, ym mis Tachwedd 1929. Er i Bwyllgor Hadow awgrymu galw'r ysgolion yn Ysgolion "Modern," gelwid hwy hyd yn ddiweddar yn Ysgolion canolog neu Ysgolion "Senior." Rhoes canlyniadau Deddf Addysg 1944 enw newydd arnynt sef Ysgolion Uwchradd Modern, a sicrhau iddynt yn awr yr un safle a'r un pwysigrwydd ag a roddir i'r hen Ysgolion Canol, a elwir bellach yn Ysgolion Uwchradd Gramadeg.

Yn olaf daw Deddf Addysg 1944. Cymerai lyfr cyfan i wneuthur cyfiawnder llawn â hi, ond gellir crynhoi ei phrif amcan i un frawddeg, sef darparu ymhob ardal ysgolion addas mewn rhif, nodwedd a chyfarpar i roddi i'r holl ddisgyblion mewn oedran ysgol yr addysg fwyaf cymwys i'w hoedran, eu gallu a'u tueddfryd. Nid yw disgrifio'r modd y gwneir hyn yn rhan o'r llyfryn hwn, ond gellir dweud cymaint à hyn bydd pob plentyn yn aros yn yr ysgol nes cyrraedd 15 oed (yn nês ymlaen, 16); gall gychwyn yn ddwyflwydd oed mewn Ysgol Famaeth neu Ddosbarth Mamaeth ac aros yno hyd 5 oed; yna symud i Ysgol Babanod ac ymlaen i'r Ysgol Gynradd nes cyrraedd 11 oed; ac wedi hynny myned i Ysgol Uwchradd—Ysgol Fodern neu Ysgol Ramadeg neu ynteu Ysgol Dechnegol-neu gyfuniad o ddwy neu dair o'r rhain mewn ysgol ddwy-ochrog neu ysgol amlochrog. Wedi hynny, drachefn, onid å i sefydliad arall a derbyn addysg yr holl amser, disgwylir iddo dreulio rhan o'i amser mewn Coleg Sir hyd ddeunaw oed. Ac os å ymlaen i Brifysgol neu i Goleg Hyfforddi neu i Goleg Technegol rhwyddheir y ffordd iddo gan ysgoloriaethau a grantiau hael. Y mae llawer mwy na hyn yn y Ddeddf Addysg-er enghraifft darpariaethau ar gyfer adeiladu ysgolion, llaeth a chinio-ond y peth pwysig ydyw sicrhau bod pob plentyn yn derbyn yr addysg a fo'n fwyaf cymwys iddo ar hyd y ffordd gan gynnwys addysg uwchradd, a bod yr addysg hon, ynghyd â rhyw gymaint o addysg bellach, yn rhad. Ni welir mwyach blant yn dwyn eu ceiniogau i ysgol dywyll a llaith a dysgu'r wyddor â llyfr corn, neu ganu tablau i acenion Llwyn Onn gan wrando ar athro anfedrus yn siarad â hwy mewn iaith ddieithr aeth dydd y pethau hyn heibio. Yr un modd, aeth heibio'r adeg y byddai Robert Roberts, "Y Sgolor Mawr," yn ymdrechu trwy gwrs Coleg Hyfforddi ar bedwar swllt yr wythnos; byw ar dorth swllt o fara, hanner pwys o fenyn, hanner pwys o gig moch ac ychydig o wyau; talu 1/6 am lety a benthyca'i lyfrau. Od oes llawer i'w wneuthur eto cyn y daw'r Ddeddf Addysg i rym caed digon i'n hatgofio o'r cyfnewidiadau mawr a fu yn ystod y can mlynedd diwethaf. Y pryd hynny, perthynai addysg i'r sefydliadau crefyddol, yn awr y mae'n un o brif ddyletswyddau'r wladwriaeth; math o gardod i'r tlawd y cyfrifid hi gynt, heddiw rhagorfraint pawb ydyw.