"Welsh Not" a'r Llyfrau Gleison bellach ymhlith y pethau a fu, a phan ymwelodd Mr. R. A. Butler, Llywydd y Bwrdd Addysg, ag Ysgol Ramadeg Abergele ar y 10fed o Fawrth, 1942, manteisiodd ar y cyfle, ar ran y Llywodraeth, i gondemnio mewn geiriau plaen syniadau gwyrgam y Llyfrau Gleision am le'r Gymraeg yng nghyfundrefn addysg Cymru ac i annog pob Cymro i ddiogelu ei etifeddiaeth genedlaethol.
"Dymunaf heddiw," meddai, "gan mlynedd yn ddiwedd- arach, ar fy rhan fy hun ac ar ran y Llywodraeth, ymwrthod yn llwyr a'r syniad hwnnw; yn wir, bwriadaf weithio i'r cyfeiriad arall."
Dri mis yn ddiweddarach, Mehefin 16, 1942, ychwanegodd at ei ddatganiad, y tro hwn yn Nhŷ'r Cyffredin:
Yn fy marn i, tywyllu cyngor wnaeth y Comisiwn Ymchwil a aeth i Gymru gan mlynedd yn ôl a chyhoeddi bod diogelu gwybodaeth o'r iaith hyfryd hon yn cloffi pob ymgais ac yn llesteirio pob ymdrech yng Nghymru. Dymunaf heddiw, gan mlynedd yn ddiweddarach, wneud iawn am y camwri hwnnw."
Llawenydd i'r Cymry oedd gwrando'r geiriau hyn, oblegid gwyddent fod y rhod wedi troi.