Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gael modd i fyw, mae yr hwn sydd yn prynu ei lafur yn prynu ei gorph, a'i ryddid, a'i fywyd yr un pryd. O bosibl fod gwisg rhyddid am dano, ond o dan y wisg mae llyffetheiriau caethiwed wedi eu cylymu mor sicr ag erioed. Arwyddair y drefn bresenol ydyw, "Lles y mwyafrif." Arwyddair y drefn newydd ydyw,"Lles pawb. Rheol y drefn bresenol ydyw, "Pob un drosto ei hun;" rheol y drefn newydd ydyw, "Pob un i bawb a phawb i bob un."

Yn sicr mae y pethau hyn yn ddymunol ynddynt eu hunain. Maent i gyd yn werth i'w cael, yn werth ceisio am danynt, yn werth cynhyrfu y byd ac aberthu llawer i'w dwyn oddi amgylch. Ac y maent yn bethau y gellir eu cael-maent yn gyraeddadwy. Mae rhwystrau ar y ffordd, ond pethau i'w goresgyn ydynt. Fe fydd yr orsedd, a'r bendefigaeth, a'r cyfoethogion, a'r barnwyr, a'r cyfreithwyr, a'r esgobion, a'r offeiriaid ynghyd au holl gynffonau, yn ein herbyn; ond beth ydynt o'u cymharu ar bobl? Trech gwlad nac arglwydd. Mae hyny wedi cael ei brofi lawer gwaith yn barod, ac fei profir eto. Ond i ni gael y bobl gyda ni, fydd ein gwrthwynebwyr i gyd, o flaen y bobl yn ddim amgen, nac us yr hwn a chwal y gwynt ymaith.

Yr hyn sydd eisiau yn awr ydyw deffro y bobl i deimlad o'u dyledswydd tuag atynt eu hunain. Mae y gallu ganddynt yn y bleidlais ar tugel, ac os na lwyddant, arnynt hwy y bydd y bai. Mae cenadwri cymdeithasiaeth yn cael ei chyhoeddi iddynt -cenadwri o obaith, o heddwch, o gariad, o gyfiawnder, o helaethrwydd, ac o ddeddwyddwch yn y byd presenol yn yr hwn y maent yn byw. Mae rhai pobl yn dysgu mai dyffryn galar ydyw y byd hwn, ac felly mae irai, ond nid i bawb. I'r pendefigion, yr uwchraddolion a'r offeiriaid o bob enw, mae yn fyd o ddedwyddwch a gogoniant; ond i'r tlawd dyffryn galar a dagrau ydyw mewn gwirionedd. Ond mae cymdeithasiaeth yn dangos